Neidio i'r prif gynnwy

BIP Cwm Taf Morgannwg yn tecstio miloedd o apwyntiadau ar gyfer y ddos atgyfnerthu

Heddiw, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi anfon miloedd o negeseuon testun yn cynnig apwyntiadau i gleifion cymwys am y ddos atgyfnerthu rhag COVID-19.

Yn ôl y Bwrdd Iechyd, byddan nhw’n cynnig apwyntiad cyn diwedd y flwyddyn i bob oedolyn (18 oed neu hŷn) sydd wedi cael dwy ddos o'r brechlyn, ond heb gael cyfle eto i gael y ddos atgyfnerthu.

Dim ond trwy apwyntiad mae modd cael y ddos atgyfnerthu. Allwch chi ddim cerdded i mewn amdani.

Bydd dyddiad, amser a lleoliad ar y neges destun.  Bydd pobl yn cael eu gwahodd i un o bum canolfan frechu gymunedol y Bwrdd Iechyd ym Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Ystrad, Aberpennar a Llantrisant.

Does dim rhif ffôn symudol gyda Chwm Taf Morgannwg ar gyfer nifer fach o bobl, felly bydd y rheiny’n cael llythyr yn hytrach, gydag apwyntiad wedi ei drefnu ar gyfer wythnos olaf mis Rhagfyr.  Mae hyn er mwyn caniatáu amser i'r llythyr gyrraedd cyn y Nadolig.

Mae'r nod o gynnig y ddos atgyfnerthu erbyn diwedd y mis hwn yn cynnwys y boblogaeth leol sy'n gaeth i'r cartref a'r rheiny gyda system imiwnedd ddifrifol wan (sydd wedi cael trydedd brif ddos).  Rhaid aros 13 wythnos o hyd rhwng cael prif ddos a’r ddos atgyfnerthu, ac felly fydd dim modd i bob un o'n cleifion gyda system imiwnedd ddifrifol wan gael y ddos atgyfnerthu erbyn diwedd mis Rhagfyr. Fodd bynnag, byddan nhw’n cael cynnig hon cyn gynted ag y byddan nhw’n gymwys.

Oherwydd yr ymdrech anferthol i gyflymu rhaglen y ddos atgyfnerthu, dydy BIP Cwm Taf Morgannwg ddim yn gallu rhoi cyfle i bobl aildrefnu eu hapwyntiad ym mis Rhagfyr.

Meddai Clare Williams, sy'n arwain rhaglen frechu COVID-19 Cwm Taf Morgannwg:  “Mae ein holl staff yn benderfynol ac maen nhw’n canolbwyntio'n llwyr ar gynnig y ddos atgyfnerthu i bawb erbyn diwedd y mis hwn. 

“Oherwydd maint y dasg sydd o'n blaenau, rydyn ni’n adleoli staff o rannau eraill o'r Bwrdd Iechyd i'n timau brechu. 

“Rydyn ni’n gofyn i'n timau flaenoriaethu’r gwaith o roi’r ddos atgyfnerthu i chi, felly rydyn ni’n gofyn i chi flaenoriaethu eich apwyntiad. Mae hyn er mwyn ein helpu i gyrraedd y targed uchelgeisiol hwn, ac yn bwysicach fyth, i roi'r diogelwch sydd ei angen arnoch chi, ar eich teulu ac ar eich cymuned ar gyfer y misoedd sydd i ddod.”

Byddwn ni’n cysylltu eto ag unrhyw un sydd ddim yn mynd i’w apwyntiad yn y flwyddyn newydd.

Mae BIP Cwm Taf Morgannwg yn gofyn i bobl gael prawf llif unffordd cyn eu hapwyntiad i gael y ddos atgyfnerthu er mwyn helpu i ddiogelu’r staff a chleifion eraill rhag COVID-19.