Neidio i'r prif gynnwy

BIP Cwm Taf Morgannwg yn cyrraedd ei nod o ran brechu rhag COVID-19

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cyrraedd ei nod o roi’r brechlyn i 104,148* o bobl yn y 4 grŵp blaenoriaeth uchaf.

O heddiw (15 Chwefror) ymlaen bydd ail gam y rhaglen yn dechrau, wrth i Gwm Taf Morgannwg geisio rhoi dos cyntaf o’r brechlyn i tua 120,000 o bobl yng ngrwpiau 5-9** erbyn diwedd mis Ebrill.

Ar yr un pryd, bydd timau brechu CTM a’u cydweithwyr gofal sylfaenol yn rhoi’r ail ddos i breswylwyr a staff mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn, staff iechyd a gofal cymdeithasol yn y rheng flaen, a phawb sy’n 70 oed neu’n hŷn a chleifion sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

Bydd Meddygon Teulu yn cysylltu â grŵp 5 (pawb sy’n 65 oed neu’n hŷn) er mwyn cynnig apwyntiad iddyn nhw i gael y brechlyn yn eu meddygfa leol.

Unwaith y byddan nhw wedi gorffen brechu grŵp 5, bydd Meddygon Teulu a’r Bwrdd Iechyd yn dechrau brechu grŵp 6 yn syth, ac yn ailadrodd y broses ar eu cyfer nhw. Mae grŵp 6 yn cynnwys ‘pawb sydd rhwng 16 a 64 oed gyda chyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes sy’n golygu eu bod mewn mwy o berygl’.

Unwaith y bydd grwpiau 5 a 6 wedi cael eu brechu bydd Meddygon Teulu yn dechrau rhoi’r ail ddos i bobl sy’n 75 oed neu’n hŷn, a chleifion sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

Mae timau brechu symudol Cwm Taf Morgannwg eisoes yn ymweld â chartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn eto er mwyn cynnig yr ail ddos i staff a phreswylwyr.

Bydd 4 canolfan frechu gymunedol bresennol y Bwrdd Iechyd yn cau dros dro o yfory (16 Chwefror) ymlaen. Cafodd hyn ei gynllunio ymlaen llaw, oherwydd yn ystod y cyfnod hwn bydd gwaith yn dechrau er mwyn agor 3 canolfan frechu gymunedol ychwanegol, gan gynyddu’r nifer yn ardal BIP Cwm Taf Morgannwg i 7.

Bwriad y Bwrdd Iechyd erioed oedd brechu pobl yn agosach i’w cartref, a bydd y 7 canolfan frechu gymunedol yn cyflawni hyn. Bydd y canolfannau yn agor ar 1 Mawrth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Ystrad (y Rhondda), Aberpennar, Llantrisant, Merthyr Tudful ac Aberfan (bydd canolfan brechu gymunedol Aberfan yn agor ddiwedd Mawrth). Unwaith y bydd canolfan Abercynon yn cau heddiw (15 Chwefror), fydd hi ddim yn ailagor. Os cawsoch chi eich dos cyntaf yn Abercynon, ac os oes apwyntiad arall wedi ei drefnu gyda chi, byddwch yn cael llythyr yn rhoi gwybod i chi pa ganolfan frechu gymunedol y dylech fynd iddi.

I ddechrau, bydd y 7 canolfan yn rhoi'r ail ddos o'r brechlyn i weithwyr gofal cymdeithasol yn y rheng flaen, ac i bawb rhwng 70 a 74 oed oedd wedi mynd i ganolfan frechu gymunedol i gael eu dos cyntaf.

Pan fyddan nhw wedi gorffen brechu’r grwpiau hyn, bydd y canolfannau brechu cymunedol yn dechrau brechu grwpiau 7, 8 a 9, sef pawb sy’n 50 oed neu’n hŷn.

Bydd aelodau o staff Cwm Taf Morgannwg yn y rheng flaen yn cael eu hail ddos yn y ganolfan frechu yn yr ysbyty lle y cawson nhw eu dos cyntaf.

Nod newydd y Bwrdd Iechyd yw gorffen brechu’r 9 grŵp erbyn diwedd mis Ebrill.

Wrth i ail gam y rhaglen ddechrau, bydd nifer fach o bobl yng ngrwpiau 1-4 nad yw’r Bwrdd Iechyd wedi llwyddo i gysylltu â nhw, a hoffen ni gynnig apwyntiad iddyn nhw i gael y brechiad.

Os ydych chi’n un o’r bobl hynny, neu os ydych chi’n adnabod neu’n perthyn i un o’r bobl hynny (e.e. rydych yn ffrind neu’n gymydog iddyn nhw), ewch i wefan Cwm Taf Morgannwg (dolen: Gwybodaeth am y brechlyn rhag COVID-19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ). Dilynwch y ddolen er mwyn cwblhau ffurflen i gysylltu â ni. Nodwch pa grŵp rydych chi neu’r person rydych yn cwblhau’r ffurflen ar ei ran yn perthyn iddo: 1, 2, 3 neu 4. O fewn 5 diwrnod ar ôl cwblhau’r ffurflen, byddwn yn cysylltu â chi er mwyn cynnig apwyntiad i chi yn un o’r clinigau ychwanegol sy’n cael eu cynnal ledled Cwm Taf Morgannwg.

Er budd eglurder, bydd unigolion sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol yng ngrŵp 4 (sy’n cael eu galw’n ‘CEV’ weithiau) wedi cael llythyr gwarchod swyddogol gan Brif Swyddog Meddygol Cymru rywbryd yn ystod y pandemig.

Os ydych chi wedi bod i apwyntiad ond wedi cael gwybod gan frechwr nad oes modd i chi gael y brechlyn Pfizer oherwydd y gallech brofi adwaith, bydd y Bwrdd Iechyd yn cysylltu â chi ac yn gofyn i chi fynd i glinig arbennig yn y pythefnos nesaf.

I gael dadansoddiad manwl o bob grŵp blaenoriaeth (1-9), dilynwch y ddolen hon: Y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu: cyngor ynghylch grwpiau blaenoriaeth ar gyfer brechu rhag COVID-19, 30 Rhagfyr 2020 - GOV.UK (www.gov.uk). Mae hyn hefyd yn nodi pa gyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes fyddai’n golygu bod person yn perthyn i grŵp 6.

*Ar 00:01am Ddydd Llun 15 Chwefror, cyfanswm y brechlynnau oedd wedi cael eu rhoi oedd 106,496. Roedd 2,348 o’r rheiny yn ail ddos. Mae hyn yn golygu bod 104,148 o bobl yng ngrwpiau 1-4 wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn.

**Mae crynodeb Iechyd Cyhoeddus Cymru o bwy sy’n perthyn i grwpiau 1-9 isod: