Mae rôl Llywiwr Canser Radiograffeg uwch bractis newydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi lleihau amseroedd aros a gwella llwybrau canser i gleifion radioleg – gan sganio bron i 400 yn fwy o gleifion yn yr wyth mis ers iddo ddechrau.
Mae arddangosfa newydd yn agor yn y Senedd i ddathlu sut y gwnaeth artistiaid wireddu dymuniadau cleifion diwedd oes i ddod â'r awyr agored dan do mewn uned gofal lliniarol.
Does dim angen i ymwelwyr wisgo masg wyneb yn ein hadeiladau mwyach fel mater o drefn, gan gynnwys mewn lleoliadau clinigol h.y. wardiau ac adrannau cleifion allanol.
Mae gwaith tîm Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi'i gydnabod yn yr 'Advancing Healthcare Awards' 2023 ledled y DU.
Bu tîm Merthyr PIPYN yn dathlu lansiad y rhaglen plant a theuluoedd newydd sbon heddiw trwy ddringo Pen y Fan.
Mae dyddiadau cyntaf sesiynau ymgysylltu’r Gwasanaethau Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (GCTMB) wedi’u cyhoeddi gan Brif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans (PGGA), sy’n gyfrifol am arwain y broses ymgysylltu Cymru gyfan.
Cafodd Uned Famolaeth Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful ymweliad brenhinol heddiw gan Noddwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM), Ei Huchelder Y Dywysoges Frenhinol.
Yr wythnos hon, bydd cam nesaf ein rhaglen gyffrous Dyfodol Iach Maesteg yn dechrau.
Mae Dr Suzanne Hardacre, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth Cwm Taf Morgannwg wedi derbyn Cymrodoriaeth fawreddog Coleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) am ei chyfraniad i fydwreigiaeth.
Mae GIG Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd yn manylu ar y cynnydd da sy’n cael ei wneud o ran ymchwilio i COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty yng Nghymru, a dysgu o’r achosion hyn.
Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn falch iawn o arddangos gwaith celf creadigol ac ysgrifennu gan gleifion yn Ysbyty George Thomas ddoe.
Mae Dale Cartwright, un o Feddygon Anaestheteg Arbenigol CTM, wedi cael ei ddyrchafu i radd 'Cadlywydd' o fewn Anrhydedd Urdd Sant Ioan am ei waith gydag Ambiwlans Sant Ioan Cymru a Heddlu De Cymru.
Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS, wedi cadarnhau penodiad Jonathan Morgan heddiw yn gadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Ddoe ymwelodd Vaughan Gething (Gweinidog dros Economi Cymru) ag Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful i weld sut mae’r rhaglen adnewyddu gwerth £260m yn dod yn ei blaen.
Ddydd Llun 13 Mawrth, lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Phrifysgol De Cymru (PDC) wasanaeth atgyfeirio iechyd meddwl newydd i fyfyrwyr.
Mae ymgyrch newydd wedi’i lansio heddiw i godi safonau a gwella gofal dementia ledled Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.
Mae'r wythnos hon yn Wythnos Cysgu Mwy Diogel ymgyrch ymwybyddiaeth sy'n cael ei rhedeg gan Lullaby Trust i gynghori rhieni a gofalwyr am beryglon syndrom marwolaeth sydyn i fabanod a'r cyngor syml sy'n lleihau'r risg y bydd yn digwydd.
Mae tîm prosiect sy’n torri amseroedd aros ar gyfer cleifion mewn cartrefi gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd angen cael cyngor amlddisgyblaethol, wedi rhoi cyflwyniad yn Niwrnod Hyb Cymru Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd (RCSLT) yr wythnos hon.