Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i Wasanaethau Iechyd Rhywiol Integredig ym Mhen-y-bont ar Ogwr

O 1 Rhagfyr 2023, bydd cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau Iechyd Rhywiol Integredig (IRI) i ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn trosglwyddo o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Gall defnyddwyr gwasanaethau IRI ym Mhen-y-bont ar Ogwr fod yn sicr na fydd y man lle maen nhw’n mynychu gwasanaethau ar hyn o bryd yn newid. Bydd y Clinig Iechyd Rhywiol Integredig yn Heol y Chwarel, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ar agor ar:

Dydd Llun 1pm – 7pm

Dydd Mercher 9am – 7pm

I drefnu apwyntiad yn ein Clinigau Iechyd Rhywiol Integredig ym Mharc Iechyd Dewi Sant, Ysbyty Cwm Rhondda, Parc Iechyd Keir Hardie, Ysbyty Cwm Cynon, Canolfan Iechyd Aberdâr, neu Heol y Chwarel, cysylltwch â’r gwasanaeth IRI ar y rhifau canlynol:

Dydd Llun - Dydd Iau: (01443 443836)

9am-3pm (ac eithrio rhwng 12:00 a 12:30 y prynhawn bob dydd) a

Dydd Gwener

9am - 12pm

Dydd Llun – Dydd Gwener (01685 728272)

9am – 12 y prynhawn

Cliciwch ar y poster i ddod o hyd i wybodaeth am gael cyngor a phrofion yn eich ardal chi.

 

21/11/2023