Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Cyfarfod y Bwrdd – 30 Tachwedd 2023

Bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal ddydd Iau, 30 Tachwedd 2023 am 10:00yb.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac yn cynnal cymaint o'i fusnes â phosibl mewn sesiwn y mae croeso fel arfer i aelodau'r cyhoedd ei mynychu a'i harsylwi.  Rydym yn falch o ddweud ein bod yn darlledu ein cyfarfod Bwrdd yn fyw trwy Microsoft Teams i roi cyfle i unrhyw un sydd â mynediad i'r rhyngrwyd i arsylwi mewn amser real. Mae'r ddolen i'r cyfarfod wedi'i chynnwys isod.

Cyswllt digwyddiadau byw

Fel mynychwyr, byddwch yn gallu arsylwi ar y cyfarfod yn Microsoft Teams-bwrdd gwaith (Windows neu Mac), gwe, neu symudol. Os nad oes gennych Microsoft Teams, gallwch hefyd ddefnyddio porwr (Chrome, Firefox neu Edge). Nodwch nad yw Safari yn cael ei gefnogi ar hyn o bryd.

Cyhoeddir papurau'r bwrdd ar gyfer cyfarfod Tachwedd 23 a byddant ar gael yma 30 November 2023.

 

17/11/2023