Neidio i'r prif gynnwy

Gwiriwch statws brechiad MMR eich plentyn

Fel y gwyddoch efallai, rydym yn gweld cynnydd pryderus yn nifer yr achosion o'r frech goch yn y DU, gydag achosion diweddar yn rhanbarth De Cymru. Mae'r frech goch yn glefyd heintus iawn, y gellir ei reoli trwy frechiad yn unig. Felly, rydym yn annog rhieni a gwarcheidwaid plant oed ysgol i sicrhau bod eich plentyn wedi derbyn dau ddos o'r brechlyn MMR.

Os nad ydych yn siŵr a yw'ch plentyn wedi'i frechu'n llawn, edrychwch ar Lyfr Coch eich plentyn yn y lle cyntaf, lle bydd manylion eu hanes brechu. Os nad ydych yn gallu penderfynu a yw'ch plentyn wedi derbyn dau ddos o'r brechlyn MMR, cysylltwch â'ch meddygfa a fydd yn gallu eich cynghori.

Os nad yw'ch plentyn wedi derbyn cwrs llawn o dau frechlyn, mae cyfres o gyfleoedd dal i fyny yn cael eu cynllunio ar hyn o bryd drwy ysgolion, ein Canolfannau Brechu Cymunedol a Meddygfeydd.Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru gyda manylion pellach maes o law, ond os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y brechlyn yn y cyfamser, ewch i'n cwestiynau cyffredin yma.

05/02/2024