Neidio i'r prif gynnwy

Uned Cynhyrchu Ganolog 'Maeth' CTM ar y rhestr fer yng Ngwobrau Arlwyo Cenedlaethol 2024

Mae'r bwydlenni sydd gyda brand newydd 'Maeth' (sy'n golygu Nutrition yn Sasedneg) wedi cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Iechyd yn ddiweddar.

Mae tîm arlwyo'r Maeth wedi'i leoli yn yr Uned Cynhyrchu Canolog (CPU) yn Nhreorci ac wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed i ddiwygio ryseitiau a bwydlenni cleifion i sicrhau eu bod yn gytbwys yn faethol, gan sicrhau bod cleifion sy'n agored i niwed yn faethol yn cael y gofal maethol gorau posibl.

Mae'r bwydlenni newydd yn fwy na'r manylebau egni a phrotein dyddiol sy'n ofynnol yn y Safonau Bwyd Cenedlaethol a'r Safonau Maeth ac Arlwyo Cymru Gyfan ar gyfer Bwyd a Hylif ar gyfer Cleifion Mewnol Ysbytai. Mae rhagori'r fanyleb ar gyfer protein ac egni yn hanfodol i'n cleifion sy’n agored i niwed, gan fod llawer o'r grŵp cleifion hwn ond yn bwyta symiau bach o'u pryd bwyd - trwy gynyddu calorïau a phrotein, mae'n sicrhau, os mai ychydig o'i bryd yn unig y mae claf yn ei fwyta, ei fod yn bwyta digon o galorïau a phrotein i atal diffyg maeth.

Mae darparu bwyd, gofal maeth ac ymyrraeth o ansawdd da mewn cleifion yn yr ysbyty yn hanfodol ar gyfer gwella o lawdriniaeth, salwch ac arhosiad hir yn yr ysbyty. Mae bwydlenni ‘Maeth’ yn fwy na'r gofynion. Mae'r holl gynnyrch sy’n cael ei ddefnyddio yn cael ei wella gyda bwydydd naturiol yn unig.

Ar hyn o bryd mae'r CPU yn paratoi ac yn darparu prydau bwyd i sefydliadau gofal iechyd eraill yng Nghymru ac yn gweithio ar ddarparu prydau bwyd i bob grŵp cleifion o fewn y GIG.

Dywedodd Jill Venables, Cyfarwyddwr Cyfleusterau Adrannol:  "Rydym wrth ein bodd bod Tîm Maeth wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Arlwyo Cenedlaethol 2024, mae hyn yn anrhydedd enfawr i'n Bwrdd Iechyd. Mae Tîm Maeth wedi gweithio'n eithriadol o galed i wella'r bwydlenni ar gyfer ein cleifion, gyda'r nod o ddiwallu anghenion ein holl gleifion tra yn yr ysbyty i gynorthwyo adferiad.  Rydym yn hynod falch o beth rydym wedi'i gyflawni."

08/03/2024