Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad Dathlu am 40+ mlynedd yn gweithio yn y GIG

Roeddem yn falch iawn o ddathlu gyda staff ddoe (Ionawr 17eg) sydd wedi cyflawni 40 mlynedd neu fwy yn gweithio yn y GIG.

Cafodd y digwyddiad yma ei gynnal ym Mhrifysgol De Cymru ac roeddem yn falch iawn o weld cymaint o gydweithwyr yn rhannu’r bore gyda ni ac yn rhannu eu straeon gyda’n gilydd.

Llongyfarchiadau a diolch i'n holl staff am yr ymroddiad yr ydych wedi'i roi i'r GIG ac i'n cymuned.  Hoffem hefyd ddiolch i’r Arglwydd Raglaw Peter Vaughan am ymuno â ni yn ein digwyddiad a dathlu gyda ni.

18/01/2024