Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen frechu MMR yn cael ei chyflwyno i ysgolion CTM

Yn ystod y misoedd diwethaf, bu achosion sylweddol o'r frech goch yn y DU, gan gynnwys achosion yn Ne Cymru. Mae'r frech goch yn heintus iawn a'r unig ffordd i atal achosion mawr yw trwy dderbyn y brechiad MMR (2 ddos) yn uchel.

Fel rhan o'n hymdrech i amddiffyn ein poblogaeth yn CTM, bydd ein tîm brechu ysgolion yn ymweld ag ysgolion cynradd yn ystod yr wythnosau nesaf, gan flaenoriaethu'r ardaloedd hynny lle gwyddom fod y nifer sy'n manteisio arnynt ar ei isaf.

Os ydym yn ymweld ag ysgol eich plentyn, a'ch plentyn heb ei frechu neu heb dderbyn dau ddos o'r brechiad MMR, byddwch yn derbyn ffurflen gydsynio drwy'r post. Helpwch ni, drwy sicrhau eich bod yn llenwi ac yn dychwelyd y ffurflen cyn gynted â phosibl. Amddiffyn eich plentyn yw ein prif flaenoriaeth.

Os oes gennych blentyn o oedran ysgol (cynradd neu uwchradd), gwiriwch eu llyfr coch, neu cysylltwch â'ch meddygfa, i sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am eu brechlynnau MMR. Os oes unrhyw ddosau wedi'u methu, gwnewch apwyntiad gyda nyrs y feddygfa i ddal i fyny.

Diolch o flaen llaw am eich cefnogaeth barhaus wrth i ni ymdrechu i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

Am fwy o wybodaeth am y brechlyn MMR, ewch i'r adran Cwestiynau Cyffredin ar ein gwefan: Imiwneiddiadau Plentyndod - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)