Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddiad newid gwasanaeth Cwm Taf Morgannwg ar gyfer cleifion gwasanaeth y fron sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr

O 1 Ebrill 2024, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gwneud gwelliannau i'r ffordd y mae'n darparu triniaeth a gofal i gleifion y fron sy'n byw yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Ar hyn o bryd, mae rhai gwasanaethau'r Fron i drigolion Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu darparu yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot.

Bydd newid yn dod i rym o 1 Ebrill, a fydd yn golygu bydd rhai cleifion sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu gofyn i fynychu eu hapwyntiadau yng Nghanolfan Bronnau’r Lili Wen Fach newydd, o'r radd flaenaf, y bwrdd iechyd.

Mae'r Ganolfan hon yn wasanaeth diagnostig a thriniaeth un-stop ar gyfer cleifion y fron, sy'n cynnig y gofal clinigol gorau o fewn amgylchedd cefnogol.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Os ydych yn glaf ar restr aros ein bwrdd iechyd ar hyn o bryd, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn rhoi manylion llawn y newid.

Ble mae'r Ganolfan?

Mae Canolfan Bronnau’r Lili Wen Fach yn gyfagos Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

Mae gen i gwestiynau neu bryderon – â phwy bydda i’n gysylltu?

Eich profiad o'n gwasanaeth yw ein blaenoriaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch y newid hwn i'ch gofal, bydd ein tîm ymroddedig yn gwneud ei gorau i'ch helpu chi.

Gallwch gysylltu â’n Tîm Pryderon dros y ffôn neu drwy e-bost:

Mae rhagor o wybodaeth am ein Canolfan Bronnau’r Lili Wen Fach ar gael yma.

21/03/2024