Neidio i'r prif gynnwy

Cyrsiau Ymwybyddiaeth Ofalgar Rhagarweiniol

Pwrpas y gwasanaeth hwn

Mae Byw a Gweithio'n Ofalgar @CTM yn cynnig sawl sesiwn wahanol i ddiwallu anghenion staff. Gellir cyflwyno ein sesiwn blasu awr o ymwybyddiaeth ofalgar 'Cymerwch Anadl' er mwyn i dimau neu unigolion gael blas ar fanteision ymwybyddiaeth ofalgar, hyd yn oed pan fo amser yn brin. Mae Mannau Gwrando Tosturiol wedi'u cynllunio ar gyfer grwpiau bach sy'n dymuno archwilio sefyllfa, mater neu greu amser i 'fod fel yr ydych chi'. Hwylusir y rhain gan ddau hwylusydd a chynlluniwyd y sesiwn i greu chwilfrydedd, tosturi, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth.

 

Beth mae'n ei olygu

Cyfarfod ar MS Teams yn gyffredinol, gellir gwneud darpariaeth ar gyfer sesiynau wyneb yn wyneb. Sicrhewch fod eich camera a'ch meicroffon yn gweithio cyn y sesiwn a bod gennych le cyfrinachol i ymarfer myfyrdod/meddylgarwch.

Dylai pawb sy'n cymryd rhan fod yn ymroddedig ac eisiau gwneud y sesiwn a deall pwrpas y sesiwn.

 

Gallwch gofrestru trwy lenwi'r ffurflen atgyfeirio hon: https://forms.office.com/r/qe6Zw6PhST

Dilynwch ni: