Neidio i'r prif gynnwy

Rydw i am ddechrau fy nhaith i fod yn fwy egnïol yn gorfforol

Sut i ddechrau arni?

Fel rydyn ni wedi nodi o'r blaen, mae gweithgarwch corfforol nid yn unig yn dda i'ch corff, mae hefyd yn dda i'ch meddwl.  Fodd bynnag, weithiau mae'n anodd cychwyn arni.  Mae rhwystrau cyffredin yn cynnwys profiadau negyddol blaenorol gydag ymarfer corff, diffyg amser neu gymhelliant, teimlo'n ansicr ble i ddechrau, ddim yn teimlo'n hyderus, neu gael swydd ddesg sy'n golygu ein bod yn eistedd am gyfnodau hir.

 

Dyma rai awgrymiadau da i'ch rhoi ar ben ffordd:

 

Dechreuwch yn Fach

Dewch o hyd i ffyrdd y gallwch chi gynnwys gweithgarwch corfforol yn eich diwrnod ac adeiladu o'r fan honno.
Mae enghreifftiau o sut y gellir gwneud hyn yn cynnwys:

  • Sefwch yn hytrach nag eistedd pan allwch chi
  • Ceisiwch fynd oddi ar y bws un arhosfan yn gynnar a cherddwch weddill y ffordd
  • Parciwch ychydig ymhellach i ffwrdd nag y mae angen i chi.
  • Ewch ar y grisiau yn lle'r lifft neu'r grisiau symudol
  • Cerddwch yn lle gyrru
  • Gwnewch ychydig o waith tŷ ysgafn neu arddio ysgafn

 

Dewch o hyd i rywbeth rydych chi'n ei fwynhau

Rydych chi'n fwy tebygol o gadw at rywbeth os ydych chi'n ei fwynhau. Am syniadau am weithgareddau, ewch i'n rhestr A-Y o weithgareddau.

 

Tracio eich cynnydd

Bydd gosod targed dyddiol realistig a'i daro yn teimlo'n wych. Gall hyn naill ai fod yn gamau, pellter, munudau o ymarfer corff neu unrhyw beth arall. Mae yna nifer o apiau olrhain ar gael ond gall fod mor syml â rhestr wirio mewn darn o bapur.

Gall enghreifftiau o dargedau dyddiol gynnwys:

  • Rydw i'n mynd i barcio ymhellach i ffwrdd nag sydd angen i mi
  • Yn y gwaith, bydda i’n cymryd y grisiau bob dydd

 

Ewch o nerth i nerth

Mae gweithgareddau sy'n adeiladu cryfder fel cario bagiau siopa trwm, pilates ar-lein neu fideos ymarfer cryfder, yn helpu i gadw cyhyrau, cymalau ac esgyrn yn gryf.  Yr argymhelliad yw eich bod yn anelu at wneud y rhain ddwywaith yr wythnos. Does dim angen i chi fod yn aelod o gampfa. Mae nifer o fideos ar-lein ar gael i'ch helpu chi. (Gweler isod am fanylion)

 

Gwneud e gyda'n gilydd

Weithiau mae'n haws cael eich cymell os ydych wedi dod yn egnïol gyda cwmni gyda chi (ffrindiau neu deulu).  Weithiau gall dod ag elfen o gystadleuaeth a heriau iach ei gwneud yn fwy o hwyl. Felly bachwch ffrind, cydweithiwr neu aelod o'r teulu i ymuno â chi.

 

Meithrinwch arferion da

Mae hyn yn helpu gyda datblygu trefn sy'n ei gwneud hi'n haws i chi gadw at y cynllun. Gall ychydig o baratoi fod y gwahaniaeth rhwng gwneud ymarfer corff neu wneud esgusodion i beidio â gwneud. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer datblygu arferion da:

  • Gosod nodyn atgoffa i symud drwy gydol y dydd
  • Symud neu ymestyn wrth wylio'r teledu neu wrth wneud paned
  • Cadw at yr un diwrnodau/amser os yn bosibl

 

Gwobrwyo eich hun

Gosodwch nodau realistig a gwobrwywch eich hun. Tritiwch eich hun:

  • Taith i'r sinema neu docynnau cyngerdd neu gêm.
  • Lawrlwytho ffilm neu gerddoriaeth
  • Dillad
  • Trip allan i rywle
  • Nwyddau ymolchi newydd
  • Teclyn newydd
  • Llyfr neu lyfr sain

Does dim angen i chi fod yn hoff o chwaraeon i ddod yn egnïol yn gorfforol. Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i gefnogi a gwella eich lles corfforol.

 

Syniadau Gweithgaredd

Does dim angen i chi fod yn hoff o chwaraeon i ddod yn egnïol yn gorfforol. Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i gefnogi a gwella eich lles corfforol.. Dyma rai syniadau ar sut i ddechrau:

Tra byddwch chi allan:

  • Cerddwch/beiciwch i'r gwaith neu i'r siopau
  • Ewch oddi ar y bws ychydig o arosfannau yn gynnar
  • Cymerwch y grisiau
  • Parciwch ymhellach i ffwrdd

Gartref:

  • Glanhewch y tŷ, defnyddiwch yr hwfer,
  • Gwnewch ychydig o arddio h.y. torri'r lawnt, ac ati
  • Golchwch y car
  • Dawnsiwch fel petasai neb yn gwylio
  • Rhowch gynnig ar rai sesiynau ymarfer ar-lein wrth wylio'r teledu
  • Chwaraewch gyda hulahwp
  • Sgipiwch

Yn y Gwaith:

  • Gwnewch ymarferion ymestyn wrth y ddesg /seibiannau
  • Cynhaliwch gyfarfodydd wrth symud - cerdded a siarad
  • Cerddwch tra yn y ffôn

Ffrindiau a Theulu:

  • Ewch ati i greu cwrs rhwystrau
  • Hedfanwch farcud
  • Taflwch bêl o gwmpas
  • Ymladdwch eich gilydd gyda gobennydd
  • 4 square
  • Hopscotch
  • Chwaraewch ‘tag’
  • Chwaden, Chwaden, Gŵydd
  • Sgipiwch
  • Chwaeraewch gyda ffrisbi
  • Geocaching
  • Helfa
  • Ras gyfnewid dŵr
  • Gêm o rownderi yn y parc
  • Ewch yn ôl i ddyddiau eich plentyndod

Cofiwch fod unrhyw beth yn well na ddim - hyd yn oed os nad ydych yn gallu gwneud 150 munud yr wythnos, dydy hyn ddim yn golygu na fyddwch yn gweld unrhyw fanteision o fod mor egnïol ag y gallwch fod.

 

Adnoddau

Gwyliwch y fideos isod am syniadau ar sut i oresgyn rhai o'r rhwystrau i weithgarwch corfforol:

 

Rhwystr i Ymarfer Corff - Manylion y Gweithdy

 

Rhwystr i Ymarfer Corff - Amser

 

Rhwystr i Ymarfer Corff - Cymhelliant

 

Rhwystr i Ymarfer Corff - Diflastod

 

Rhwystr i Ymarfer Corff - Gweithio wrth Ddesg

 

Pam rydyn ni'n rhoi'r gorau i'n cynlluniau ymarfer corff a sut allwn ni ddelio â hyn
Sgyrsiau am sut mai diflastod yw'r prif reswm y mae pobl yn rhoi'r gorau i ymarfer corff a sut i gadw eich diddordeb.

I ddarganfod beth sydd ar gael yn eich ardal chi, edrychwch ar y gwefannau canlynol:

Merthyr Tudful

Rhondda Cynon Taf

Pen-y-bont ar Ogwr

Gwefan Swyddogol Chwaraeon Anabledd Cymru

Trosolwg o’r Gweithgareddau (visitmerthyr.co.uk)

Cerdded - Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr | Canllawiau Defnyddiol

Llwybrau Cerdded | Croeso i Rhondda Cynon Taf

Cerddwyr Caerdydd - Taflenni Cerdded

Apiau am ddim

Traciwch ac adeiladwch eich teithiau cerdded dyddiol
- dechrau gyda 10 munud bob dydd!
Ap rhedeg ar gyfer dechreuwyr llwyr
- yn ogystal â graddedigion diweddar Soffa i 5K.
Ap GIG Actif 10 - Lawrlwythwch ar y Storfa Ap Ap GIG Actif 10 - Lawrlwythwch ar y Storfa Ap
Ap GIG Soffa i 5K -
Ei gael ar Google Play
Ap GIG Soffa i 5K -
Ei gael ar Google Play

Fideos ar lein am ddim

Mae yna lawer of fideos ar gael sydd wedi eu creu ar gyfer GIG:

  • Dolenni i ystod o fideos ymarfer corff aerobig sy'n addas ar gyfer pob lefel, y gellir eu gwneud gartref. Yn cynnwys soffa i 5k ac ati.
  • Dolenni i ystod o fideos ymarfer cryfder a gwrthiant sy'n addas ar gyfer pob lefel, y gellir eu gwneud gartref.
  • Dolenni i ystod o fideos pilates a ioga i weddu i bob lefel, y gellir eu gwneud gartref.
Dilynwch ni: