Neidio i'r prif gynnwy

Siaradwch â ni!

Mae'r Gymraeg yn bwysig i ni yn y Bwrdd Iechyd; mae llawer o'n staff yn siarad Cymraeg ac rydym yn falch o wasanaethu cymunedau sydd â threftadaeth Gymraeg gref lle mae ein hiaith unigryw yn ffynnu.

I ni, mae cynnig gwasanaeth yn Gymraeg yn rhan o sut rydym yn gweithio o ddydd i ddydd. Ond mae bob amser yn braf clywed ein bod yn gwneud yn dda. Rydym hefyd yn awyddus i glywed a allwn wella sut rydym yn defnyddio'r Gymraeg.

Os hoffech roi adborth i ni, neu os hoffech wneud cwyn am sut rydym wedi defnyddio’r Gymraeg neu beidio â’i defnyddio yn ôl eich disgwyl, gallwch roi gwybod i ni ar ein Harolygon Adborth Cleifion yma.

01443 744915 neu concerns_ctm@wales.nhs.uk Mae gennych hefyd yr hawl i gwyno i Gomisiynydd y Gymraeg:

0345 603 3221 neu post@comisiynyddygymraeg.cymru

Dilynwch ni: