Neidio i'r prif gynnwy

Rhyddid i siarad Cymraeg

Mae hefyd hawl gyda chi i ddefnyddio’r Gymraeg gyda phobl eraill yng Nghymru sydd hefyd yn dymuno defnyddio’r Gymraeg gyda chi, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig.

O dan Ran 6 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, os oes dau neu fwy o bobl eisiau defnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd, mae yn erbyn y gyfraith i unrhyw un ymyrryd mewn unrhyw ffordd i atal hynny. Gall ymyrryd olygu gofyn i chi beidio â defnyddio’r iaith, dweud y byddwch dan anfantais am ddefnyddio’r Gymraeg neu achosi i chi fod dan anfantais am wneud hynny.

Os ydych chi’n credu bod rhywun wedi ymyrryd â’ch hawl i ddefnyddio’r Gymraeg, gallwch gwyno i Gomisiynydd y Gymraeg:

0345 603 3221 neu

post@comisiynyddygymraeg.cymru

Dilynwch ni: