Yn y pwyntiau bwled isod, mae beth mae disgwyl i ddarparwyr Gofal Sylfaenol, fel meddygfeydd, deintyddion a fferyllfeydd cymunedol GIG sydd â thelerau cytundeb, contract a/neu wasanaeth gyda’r Bwrdd Iechyd ei wneud.
Y ddeddfwriaeth a ddaeth â’r Chwe Dyletswydd i mewn yw Rheoliadau’r GIG (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y defnydd o’r Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol, gweler tudalen we Llywodraeth Cymru yma.
Y Chwe Dyletswydd:
- Bydd darparwyr yn annog eu staff i ofyn i chi beth yw eich dewis iaith a chofnodi hyn ar systemau digidol;
- Bydd darparwyr yn annog staff sy’n siarad Cymraeg i wisgo bathodyn neu gortynnau gwddf i gyfleu hynny, a bydd y rhain ar gael gan y Bwrdd Iechyd;
- Bydd darparwyr yn rhoi gwybod i’r Bwrdd Iechyd lle gall y darparwr ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, fel y gallwn hyrwyddo’r gwasanaethau hyn;
- Bydd darparwyr yn annog staff y darparwr i ddefnyddio gwybodaeth neu fynd i sesiynau hyfforddi gan y Bwrdd Iechyd i wella eu hymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg mewn gofal, hanes ein hiaith a’i defnydd heddiw, a sut y gellir defnyddio’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau;
- Bydd darparwyr yn sicrhau bod dogfennau a ffurflenni gan y Bwrdd Iechyd ar gael i chi yn Gymraeg a Saesneg;
- Bydd darparwyr yn arddangos eu harwyddion yn Gymraeg ac yn Saesneg.