Neidio i'r prif gynnwy

Dyletswyddau Cymraeg Gofal Eilaidd

Yn y pwyntiau bwled isod, mae beth mae disgwyl i'r Bwrdd Iechyd ei wneud mewn gwasanaethau gofal eilaidd wrth ddarparu gwasanaethau iechyd i chi.

Yn fras, mae gofal eilaidd yn wasanaethau nad ydyn nhw ar gael trwy feddyg teulu, fferyllfa gymunedol neu ddeintydd neu optegydd stryd fawr. Gall hyn gynnwys yr adran argyfwng, mamolaeth, apwyntiadau cleifion allanol, wardiau cleifion mewnol, clinig diabetes neu feddygfa. Bydd y gwasanaethau fel arfer ar safle ysbyty neu mewn clinig, a byddech wedi cael eich cyfeirio atyn nhw os nad yw'n fater brys.

Y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i’r dyletswyddau hyn yw Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018, y mae ein ‘hysbysiad cydymffurfio’ yn seiliedig arnyn nhw.

Dyma eich hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’r Bwrdd Iechyd yn y gwasanaethau hyn:

  • Bod yn rhagweithiol gyda’ch hawliau iaith: Yr hawl i beidio â gorfod mynd i’r ymdrech o ddweud wrthym beth yw eich dewis iaith – mae’n rhaid i ni ofyn i chi a chofnodi hyn. Mae'n rhaid i ni hefyd hyrwyddo ein gwasanaethau dwyieithog i'r cyhoedd;
  • Hyrwyddo ein hiaith ar draws y system: Lle byddwch chi’n gweld y symbol Iaith Gwaith (y swigod siarad oren gyda 'Cymraeg' wedi'i ysgrifennu ynddo) ar arwydd, ar boster, ar iwnifform gwaith neu ar gortyn gwddf ar ward neu mewn apwyntiad, defnyddiwch eich Cymraeg. Rhaid i'r Bwrdd Iechyd ddarparu'r arwyddion, bathodynnau a chortynnau gwddf hyn i'w staff er mwyn hybu'r Gymraeg;
  • Defnyddio'r Gymraeg dros y ffôn: Yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg dros y ffôn, gyda chyfarchiad Cymraeg a’r gallu i drafod eich ymholiad yn Gymraeg;
  • Cymraeg yn yr amgylchedd ffisegol: Yr hawl i weld a chlywed y Gymraeg o’ch cwmpas, ar arwyddion, posteri, deunydd hysbysebu ac arddangosiadau gyda’r Gymraeg ar ben neu i’r chwith, ac ar systemau uchelseinydd a negeseuon wedi’u recordio;
  • Cyrsiau iechyd: Yr hawl i ddilyn cwrs addysg iechyd yn y Gymraeg lle rydym yn eu cynnig;
  • Gohebiaeth: Yr hawl i dderbyn gohebiaeth (llythyrau, e-byst, negeseuon testun) yn Gymraeg a'r hawl i ymateb yn Gymraeg heb ormod o oedi;
  • Gwybodaeth ysgrifenedig: Yr hawl i gael dogfennau a ffurflenni yn Gymraeg;
  • Derbyniadau: Yr hawl i wasanaeth Cymraeg yn y dderbynfa;
  • Cyfryngau digidol: Yr hawl i ddefnyddio ein gwefan ac apiau yn Gymraeg gyda phob tudalen yn adlewyrchu’r un Saesneg yn union, a’r hawl i lywio’r tudalennau’n hawdd i ddarganfod, yn Gymraeg, beth rydych yn chwilio amdano;
  • Cyfryngau cymdeithasol: Yr hawl i weld a defnyddio’r ddwy iaith ar gyfryngau cymdeithasol lle bydd y cyfrifon yn cyfateb i’w gilydd o ran cynnwys, a’r hawl i gysylltu â ni yn Gymraeg drwy’r cyfryngau cymdeithasol a derbyn ymateb yn Gymraeg;
  • Cyfarfodydd a digwyddiadau: Yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfod neu gynhadledd achos, a’r hawl i weld a defnyddio’r Gymraeg ym mhob cyfarfod a digwyddiad cyhoeddus.

Mae'r hawliau hyn yn rhan o beth mae'r gyfraith wedi'i alw'n 'Safonau Cyflenwi Gwasanaethau'. Nid dyna'r cyfan y mae disgwyl i'r Bwrdd Iechyd ei wneud; mae disgwyl i ni hefyd wreiddio'r Gymraeg yn y modd yr ydym yn gwneud penderfyniadau, llunio polisïau a recriwtio staff. Mae disgwyl i ni hefyd hyrwyddo'r iaith yn fewnol, er mwyn sicrhau bod staff yn gwybod beth yw eich hawliau a sut y gallant ddefnyddio a dysgu ein hiaith yn y gwaith.

I gael mwy o wybodaeth, gweler ein 'hysbysiad cydymffurfio' yma. Mae ein hysbysiad cydymffurfio yn ddogfen gyfreithiol o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac mae’n nodi safonau ymddygiad ar gyfer y Gymraeg y mae’n rhaid inni gadw atyn nhw.

Dilynwch ni: