Neidio i'r prif gynnwy

Y manteision i'ch babi

Mae bwydo ar y fron yn arwain at fanteision hirdymor i'ch babi sy'n para hyd at pan fydd yn oedolyn. Mae’n gallu helpu i wella cyniferydd deallusrwydd (IQ) babi, yn ogystal â’i ddatblygiad personol a chymdeithasol.

Hefyd, mae’n gallu helpu i leihau'r risg o ddatblygu:

  • heintiau
  • lewcemia yn ystod plentyndod
  • gordewdra
  • diabetes
  • syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod
  • ecsema
  • asthma
  • alergeddau bwyd
  • clefyd y galon yn ddiweddarach mewn bywyd.
Dilynwch ni: