Neidio i'r prif gynnwy

Dyma rai o gerrig milltir ein gwaith gwella hyd yma

  • Mae hyfforddiant strwythuredig i staff wedi ei ddatblygu i bob aelod o staff sy’n rhan o ofal mamolaeth, gan gynnwys bydwragedd, obstetryddion, anesthetyddion, paediatregwyr, nyrsys meithrin a gweithwyr cymorth. Mae hyn wedi gwella ein cydymffurfiaeth o ran hyfforddiant a sut mae timau’n gweithio gyda’i gilydd. 
  • Rydyn ni cynyddu presenoldeb meddygon obstetrig ymgynghorol ar ein wardiau geni, sy’n sicrhau bod goruchwyliaeth gan staff uwch ar gyfer gofal diogel ac effeithiol.  
  • Mae ein pencampwyr bydwreigiaeth yn rhannu gwybodaeth arbenigol am ystod o bynciau, ac maen nhw’n cydweithio â staff eraill er mwyn gwella gwybodaeth a chefnogi ein menywod. 
  • Mae gan ein strwythur llywodraethiant fframwaith clir, sydd wedi arwain at adolygiadau amserol a chamau’n cael eu cymryd.  
  • Rydyn ni wedi datblygu ffyrdd arloesol o rannu gwersi a ddysgwyd â grŵp ehangach o staff. 
  • Mae strwythurau cymorth rhagorol gyda ni ar gyfer lles, ac mae’r rhain ar gael i bob aelod o staff mamolaeth. 
  • Rydyn ni wedi cyflwyno 61 canllaw mamolaeth newydd, sy’n sicrhau bod y sylfaen orau posibl yn ei lle ar gyfer gofal o’r safon uchaf. 
  • Mae ein grŵp ymgysylltu Fy Mamolaeth i, Fy Ffordd i yn dod â’r gymuned, rhieni a staff meddygol ynghyd, er mwyn rhannu syniadau a chasglu adborth y gallwn ni ei ddefnyddio, i sicrhau ein bod yn ymateb i farnau cleifion. 
  • Yn y gymuned, mae ein bydwragedd yn gwella ar dargedau i sicrhau bod menywod yn cael eu gweld yn ystod 10 wythnos gyntaf eu beichiogrwydd. 
  • Rydyn ni’n anfon menywod adref o’r ysbyty yn gynharach os yw’r fam yn gofyn am hynny, ac rydyn ni hefyd yn gallu cefnogi’r mamau hynny sydd am gael ein cymorth am ychydig yn fwy o amser.  
  • Rydyn ni wedi datblygu’r ffordd rydyn ni’n trosglwyddo cyfrifoldebau gofal rhwng staff, er mwyn sicrhau bod cynlluniau diogel yn eu lle.
Dilynwch ni: