Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio i wella

Mae gweithio mewn partneriaeth wrth galon ein rhaglen o wella. Rydyn ni’n trafod â’n cymunedau er mwyn gwneud yn siŵr fod ein teuluoedd yn derbyn y gofal o’r safon uchaf, sef dim llai na beth maen nhw’n ei haeddu yn ein barn ni. 

Mae tîm ymroddgar gyda ni i helpu ein gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol i wneud y newidiadau sy’n hanfodol bwysig er mwyn gwella ein gwasanaethau at y dyfodol.

Mae taith at ofal gwell wedi parhau ar garlam er gwaethaf heriau COVID. Rydyn ni wedi cadw menywod, teuluoedd a chymunedau’n ddiogel, ac rydyn ni wedi sicrhau hefyd eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf trwy gydol y cyfnod anodd hwn. Erbyn hyn, mae IMSOP wedi gwirio bod mwyafrif helaeth yr argymhellion a nodwyd gan Goleg Brenhinol yr Obstetregwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd wedi eu cwblhau. Mae ein tîm yn gweithio'n galed i gyflawni'r ychydig argymhellion cymhleth sy'n weddill.

Hoffem ni ddiolch i’r menywod, y teuluoedd ac aelodau o’r gymuned, a hefyd staff y Bwrdd Iechyd, sydd wedi gweithio gyda’i gilydd i sicrhau canlyniad positif a dyfodol llwyddiannus i wasanaethau mamolaeth i Gwm Taf Morgannwg.

Dilynwch ni: