Neidio i'r prif gynnwy

Cofio'r gorffennol

Ym mis Ebrill 2019, derbyniodd y Bwrdd Iechyd adroddiad ar y cyd damniol gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a Choleg Brenhinol y Bydwragedd am ein gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg.  

Cyhoeddon ni ymddiheuriad ar unwaith wedi hynny am y methiannau a nodwyd, a rhoddon ni Rhaglen Gwella Mamolaeth gadarn ar waith. Yn rhan o’r rhaglen hon, rydyn ni wedi bod yn casglu barnau, profiadau a meddyliau menywod a’u teuluoedd, ac rydyn ni hefyd wedi bod yn datblygu systemau i wella diogelwch fel bod modd i ni ddarparu gofal o’r safon uchaf. Rydyn ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i’r afael â’r heriau hyn mewn modd agored a thryloyw a gan barhau i drafod â’n poblogaeth.

Cafodd y Panel Trosolwg Annibynnol ar Famolaeth (IMSOP) ei sefydlu gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fel bod goruchwyliaeth ddigonol drosom ni i weithredu argymhellion yr adolygiad. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, adroddodd y Panel fod ein gwelliannau wedi eu gwreiddio ar sylfeini cadarn. Mae ein cynydd yn sicr ar y trywydd iawn nid yn unig i gyflawni’r argymhellion ond hefyd i ddarparu gwasanaeth mamolaeth y gall staff a chymunedau lleol fod yn falch ohono.  

Roedd y Panel yn adrodd i’r Gweinidog bob chwarter hyd nes mis Mawrth 2020, ac mae bellach yn adrodd bob chwe mis.  Mae’r adroddiadau ar gael i’r cyhoedd, ac mae modd dod o hyd iddyn nhw trwy ddilyn y ddolen isod.

Gallwch chi ddysgu rhagor am banel IMSOP yma.

Mae’r adroddiadau sydd wedi eu cyhoeddi hyd yma ar gael yma.

 

Dilynwch ni: