Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig

Beth rydyn ni’n ei wneud

Mae saith Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ledled Cymru, sy’n cynrychioli partneriaeth rhwng Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol. Caws eu datblygu ar ôl ymgynghoriad eang gyda phobl awtistig, rhieni/gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a chymunedau. Amlygodd yr ymgynghoriad ddiffyg mynediad at asesiad a chymorth priodol ar gyfer pobl awtistig a fethodd â bodloni’r meini prawf ar gyfer llawer o wasanaethau.

Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cwm Taf Morgannwg (IAS) yn dîm arbenigol amlbroffesiynol sy’n cynnwys y gweithwyr proffesiynol canlynol:

  • Seicolegydd Clinigol/Arweinydd Clinigol
  • Arweinydd Tîm/Ymarferydd Nyrsio Arbenigol
  • Therapydd Galwedigaethol Arbenigol
  • Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol
  • Ymarferydd Arbenigol Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig
  • Gweithiwr cymdeithasol
  • 2 x Gweithwyr Cymorth Cymunedol · Gweinyddwr

Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cwm Taf Morgannwg yn cynnig y gwasanaethau canlynol:

  • Asesiadau diagnostig i oedolion
  • Cefnogaeth i oedolion sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth. Mae dau fath o gymorth yn cael eu rhoi:
    • Cyrsiau: E.e. cwrs ôl-ddiagnostig a sgiliau am oes. Gall rhieni, gofalwyr a phartneriaid/priod oedolion hefyd ddod i'r cwrs ôl-ddiagnostig
    • Ymyrraeth 1:1 o ynghylch nodau tymor byr penodol a nodwyd
    • Gwybodaeth a chyngor i deuluoedd/gofalwyr plant ac oedolion ag awtistiaeth.

Gwybodaeth, cyngor ac ymgynghoriad achos-benodol i weithwyr proffesiynol sy'n cefnogi unigolion ag Awtistiaeth.

Rydyn ni’n cynnig cymorth i oedolion ag awtistiaeth a’u teuluoedd ar amrywiaeth eang o bynciau ac isod mae rhai enghreifftiau (dydy hyn ddim yn gyflawn):

  • Gorbryder
  • Sgiliau Cymdeithasol
  • Anawsterau synhwyraidd
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a hamddenol
  • Datblygu sgiliau byw dyddiol (e.e. talu biliau, siopa a choginio)
  • Gwasanaethau eraill, e.e. gofal iechyd neu gymorth ynghylch cyflogaeth

I bwy mae’r gwasanaeth?

Gall unigolion neu eu teuluoedd a gofalwyr sy’n meddwl bod angen asesiad ar gyfer awtistiaeth, hunanatgyfeirio at y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig trwy gwblhau ffurflen atgyfeirio ar gyfer asesiad diagnostig.

Wrth gwblhau'r ffurflen atgyfeirio ar gyfer asesiad diagnostig, rydym hefyd yn gofyn am AQ (50), EQ (40) a Holiadur Perthnasau (RQ) wedi'u cwblhau. Mae’r holl ddogfennau ar gael ar gais neu ar wefan Awtistiaeth Cymru: https://www.autismwales.co.uk

Gall unigolion sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth ac a hoffai gael cymorth gan Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Cwm Taf Morgannwg, hunanatgyfeirio drwy gwblhau furflen atgyfeirio.

Gall gweithwyr proffesiynol atgyfeirio unigolion drwy gwblhau'r ffurflen atodedig, neu gallan nhw gysylltu â'r gwasanaeth am gyngor/ymgynghoriad ynghylch achos.

Mae’r holl ffurflenni atgyfeirio a dogfennau cysylltiedig ar gael ar gais neu ar wefan Awtistiaeth Cymru.

NODER: Ar hyn o bryd dim ond unigolion sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful y mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cwm Taf Morgannwg yn eu cefnogi. Mae unigolion sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cefnogi gan IAS Abertawe/Bae’r Gorllewin ac mae ragor o fanylion am y gwasanaeth hwn yma: https://www.autismwales.co.uk

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Dydy’r gwasanaeth hwn ddim yn cynnig y canlynol:

  • Gwaith uniongyrchol â phlant
  • Cymorth uniongyrchol i oedolion sy’n derbyn gofal a chymorth gan Wasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu. Fodd bynnag, rydyn ni’n rhoi cymorth i’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y meysydd hyn.
  • Triniaeth uniongyrchol ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl e.e. gorbryder
  • Presgripsiynu/monitro moddion
  • Ymyrraeth frys
  • Gofal seibiant
  • Ymateb cyflym
  • Asesiadau diagnostig i bobl dan 18 oed
  • Triniaeth neu reoli gofal tymor hir

(Mae gwasanaethau eraill ar gael ar gyfer yr anghenion uchod)

Sut mae defnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gofynnwch am neu lawrlwythwch a chwblhewch ffurflen atgyfeirio o https://www.autismwales.co.uk/cy ac unrhyw holiaduron ychwanegol perthnasol. Wedyn, anfonwch yr holl ddogfennaeth berthnasol yn ôl i IAS Cwm Taf Morgannwg gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod:

Parc Iechyd Keir Hardie
Ffordd Aberdar
Merthyr Tudful
CF48 1BZ

Ffôn: 01443 715044
E-bost: CTT_IAS@wales.nhs.uk

 

Dilynwch ni: