Mae gan BIP CTM dair Nyrs Cyswllt Anableddau Dysgu Acíwt sydd wedi'u lleoli yn:
- Ysbyty Tywysoges Cymru
- Ysbyty Brenhinol Morgannwg
- Ysbyty’r Tywysog Siarl
Bydd y Nyrs Gyswllt yn:
- Cadw cysylltiad â'r ward trwy gydol ymweliad y claf neu’r cyfnod y bydd yn yr ysbyty
- Rhoi cyngor ac arweiniad
- Cefnogi staff yr ysbyty i wneud addasiadau rhesymol lle bo angen
- Darparu hyfforddiant hyrwyddo ac ymwybyddiaeth o Anableddau Dysgu i’r staff
I Bwy mae’r Gwasanaeth?
- Pobl ag Anabledd Dysgu a'u teuluoedd a'u gofalwyr
- Staff sy'n gweithio yn yr ysbytai hyn
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Na, dim ond pobl ag Anabledd Dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr a staff sy'n gweithio yn yr ysbytai hyn
Amseroedd agor
8am - 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ond mae'r gwasanaeth yn gweithio'n hyblyg y tu allan i'r oriau hyn lle bo angen)
Manylion cyswllt
Os bydd angen i chi gysylltu â'r Gwasanaeth Cyswllt Anableddau Dysgu:
Cysylltwch â'r ysbyty perthnasol:
- Ysbyty'r Tywysog Charles 01685 721721 neu Dîm Anableddau Dysgu Cymunedol Gogledd RhCT 01685 351279
- Ysbyty Brenhinol Morgannwg 01443 443443 neu Dîm Anableddau Dysgu Cymunedol De RhCT 01443 220418
- Ysbyty Tywysoges Cymru 01656 752752 neu Dîm Anableddau Dysgu Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr 01656 815353