Neidio i'r prif gynnwy

Lymffoedema

 

Beth bynnag sydd wedi ei achosi, mae ein Gwasanaeth Lymffoedema yn darparu asesiadau, triniaeth, cyngor a chymorth i gleifion ar gyfer lymffoedema. Rydyn ni’n wasanaeth dan arweiniad nyrsys i gleifion allanol yn Ysbyty Dewi Sant ym Mhontypridd ac ym Mharc Iechyd Prifysgol Keir Hardie ym Merthyr Tudful.

Mae ein Gwasanaeth Lymffoedema yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Hyfywedd Meinwe a’r Timau Nyrsio Ardal drwy gynnal adolygiadau ac asesiadau ar y cyd ac mae’n bosib cynnal y rhain gartref os ydy claf yn gaeth i’r cartref.

I bwy mae’r gwasanaeth?

Mae’r Gwasanaeth Lymffoedema yn darparu gwasanaeth arbenigol i bobl y mae angen triniaeth holistaidd ar eu lymffoedema (ni waeth beth fo’r achos). Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i unrhyw un yn ardal Cwm Taf Morgannwg.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Bydd rhaid i chi gael eich atgyfeirio at y gwasanaeth hwn. Byddwn ni’n asesu pob atgyfeiriad i sicrhau ei fod yn addas. Gall unrhyw un atgyfeirio at y gwasanaeth hwn. Os ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n elwa ar y gwasanaeth hwn, siaradwch â’ch meddyg teulu yn gyntaf.

Amseroedd agor
Dewi Sant: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8:30 am - 4:30 pm
Parc Iechyd Prifysgol Kier Hardie: Dydd Mawrth a Dydd Iau, 8: 30yb - 4: 30yp

Beth i'w ddisgwyl

Mae’r Gwasanaeth Lymffoedema yn darparu:

  • Asesiadau, triniaeth, cyngor a chymorth i gleifion gyda lymffoedema.
  • Ymweliadau â’r cartref i gleifion os bydd angen.
  • Asesiadau i gleifion mewnol os bydd lymffoedema yn eu hatal nhw rhag gadael yr ysbyty.
  • Gwybodaeth i gleifion, teuluoedd a gofalwyr am bedwar conglfaen gofal lymffoedema, sef gofalu am y croen, tylino, therapïau cywasgu a rheoli pwysau/gweithgarwch. 

Cysylltwch â Ni
ffôn: 01443 443499

Mesurau Canlyniad a Adroddir gan Gleifion (PROM) a Phrofiadau a Adroddir gan Gleifion (PREM)

Gall cleifion Lymffoedema CTM nawr gyflwyno asesiad digidol sy'n helpu i adrodd ar eu canlyniadau a'u profiadau. Bydd eich nyrs lymffoedema yn esbonio hyn i chi yn fanylach yn eich apwyntiad. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am PROM (Patient Reported Outcome Measures) a PREM (Patient Reported Experience Measures)cliciwch yma. Os hoffech chi gwblhau Arolwg Profiad Cleifion Lymffoedema,cliciwch yma.

Dilynwch ni: