Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth i'r rheiny sydd wedi colli babi

Mae colli babi cyn genedigaeth neu blentyn newydd-anedig yn dorcalonnus, ac mae’n newid eich teulu am byth. 

Er mwyn eich helpu chi i oroesi effaith emosiynol eich colled, mae’n bwysig eich bod chi’n edrych ar ôl eich hun a’ch anwyliaid ac yn manteisio ar y nifer lu o wasanaethau cymorth sydd ar gael i chi. 

Dyma restr ddefnyddiol o’r amrywiaeth eang o gymorth pwrpasol sydd ar gael i chi ac i’ch teulu ehangach.

 

2 Wish Upon A Star – Cymorth yn syth ar ôl marwolaeth sydyn ac annisgwyl plentyn neu berson ifanc sy’n 25 oed neu’n iau. Bydd ymweliadau â’r cartref a chymorth dros y ffôn yn parhau am ba bynnag hyd mae’r teulu a’r Cydlynydd Cymorth Di-oed yn ei ystyried yn briodol ac yn fuddiol.

Ffôn: 01443 853125

E-bost: info@2wishuponastar.org

 

Aching Arms – Cymorth i rieni sydd wedi colli plentyn cyn genedigaeth, yn ystod genedigaeth neu yn ystod plentyndod, a hynny yn ddiweddar neu yn bellach yn ôl.

I gysylltu â gwasanaeth cyfeillio Supporting Arms ac i drefnu i rywun eich ffonio chi, ffoniwch neu anfonwch neges destun at: 07464508994 neu e-bostiwch: support@achingarms.co.uk

I gael tedi bêr Aching Arms yn anrheg i roi cysur i chi, e-bostiwch: bears@achingarms.co.uk


Alternatives Listening Rooms – Elusen sy’n rhoi cymorth i rieni sydd wedi colli babi ar unrhyw adeg yn ystod beichiogrwydd neu yn ystod genedigaeth. Maen nhw’n cynnig cwnsela a chymorth rhad ac am ddim a chyfrinachol. Gallwch chi gael cymorth wyneb yn wyneb, dros y ffôn, ar-lein neu drwy declyn sgwrsio ar y we.

Ffôn: 01382 221112 (gwasanaeth ateb 24 awr)

Llinell destun: 07599 955231 (Anfonwch neges destun nawr i drefnu apwyntiad)


ARC: Antenatal Results and Choices – Cymorth profedigaeth arbenigol ynghylch terfynu beichiogrwydd ar ôl diagnosis cyn-geni. 

Rhif ffôn: 07875480076

E-bost: info@arc-uk.org


Bro Morgannwg Baby Loss Support Group – Elusen sy’n rhoi cymorth i deuluoedd sydd wedi colli babi. Mae’r cyfarfodydd yn rhoi cyfle diogel a chyfrinachol i famau yn bennaf ddod i rannu eu profiadau ac i wrando ar brofiadau mamau eraill sydd wedi cael profedigaeth.

E-bost: bromorgannwgblsgroup@gmail.com


Children of Jannah– Cymorth i rieni sydd wedi colli babi, yn seiliedig ar y gred Fwslimaidd fod pob plentyn sy’n marw yn mynd i’r nefoedd (sef Jannah yn Arabeg).

Cysylltwch trwy eu gwefan (mae sgwrsio byw ar gael): https://www.childrenofjannah.com/contact


The Compassionate Friends – Cymorth gan gymheiriaid i rieni sydd wedi cael profedigaeth a’u teuluoedd. Sylwch: Mae’r cymorth yn cael ei gynnig yn bennaf i rieni sydd wedi colli babi ychydig fisoedd ar ôl ei eni yn hytrach na cholli babi oherwydd camesgoriad, marw-enedigaeth neu yn ystod wythnosau cynnar ei fywyd.

Ffôn: 0345 123 2304 (10am-4pm, 7pm-10 pm, bob dydd)

E-bost: helpline@tcf.org.uk


Cradle – Cymorth i unrhyw un sydd wedi colli babi. Mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnal gan dîm arbennig o lysgenhadon gwirfoddol ac mae pob un ohonyn nhw wedi colli babi yn ystod beichiogrwydd cynnar.Mae cymorth dros Zoom ar gael. E-bostiwch: cradle@earlypregnancyloss.co.uk


The Ectopic Pregnancy Trust – Mae The Ectopic Pregnancy Trust yn rhoi cymorth i fenywod a’u teuluoedd sydd wedi cael profiad erchyll o golli babi oherwydd beichiogrwydd ectopig. 

Am wybodaeth a chymorth, cewch chi drefnu i rywun eich ffonio chi yn ôl neu cewch chi e-bostio.

Llinell gymorth: 020 7733 2653

E-bost: ept@ectopic.org.uk


Grŵp Cymorth Snowdrop Cwm Taf Morgannwg – Mae’r grŵp yn cynnig man diogel i rannu profiadau a theimladau ac yn rhoi cymorth i unrhyw un sydd wedi colli babi yn ystod beichiogrwydd, yn ystod genedigaeth neu ar ôl genedigaeth.

Facebook: https://www.facebook.com/groups/679546572453599 

E-bost: myscha-dene.Bates@wales.nhs.uk


Held In Our Hearts – Cwnsela ar-lein i bobl sydd wedi colli babi yn ogystal â gwasanaeth cyfeillio a grwpiau cymorth rheolaidd ar-lein sy’n cynnig cymorth profedigaeth, cymorth i dadau, cymorth ar gyfer rhieni sydd wedi colli gefeilliaid neu fwy nag un plentyn, cymorth ar gyfer canlyniadau a dewisiadau cyn-geni, cymorth i fam-guod a thad-cuod, cymorth ar gyfer beichiogrwydd a chymorth ar gyfer rhianta ar ôl colli plentyn. 

E-bost: info@heldinourhearts.org.uk


The Lily Mae Foundation – Elusen gofrestredig yn y DU sy’n rhoi cymorth mawr ei angen i rieni a theuluoedd sydd wedi colli babi oherwydd marw-enedigaeth, marwolaeth cyn-geni, camesgoriad neu derfyniad meddygol.

E-bost: info@lilymaefoundation.org


Lullaby Trust – Cymorth i deuluoedd sydd wedi colli plentyn oherwydd Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod.

Cymorth ar gyfer profedigaeth: 0808 802 6868

E-bost: support@lullabytrust.org.uk

Llinell wybodaeth: 0808 802 6869

E-bost: info@lullabytrust.org.uk


The Miscarriage Association – Cymorth a gwybodaeth i unrhyw un sy’n dioddef ar ôl camesgoriad, beichiogrwydd ectopig neu feichiogrwydd molar. Maen nhw’n cynnig llinell gymorth, sgwrsio byw, gwasanaeth e-bost a chymorth ar-lein.

Llinell gymorth: 01924 200799 (Llun-Gwener, 9am-4pm)

E-bost: info@miscarriageassociation.org.uk


MISS (Aberdeen) – Cymorth i unrhyw un sy’n dioddef ar ôl camesgoriad. Mae’r gwasanaeth ar gael i bobl o bob rhanbarth ac yn cynnig pecynnau cymorth ar-lein yn ogystal â gwasanaeth dros y ffôn.

Llinell gymorth: 07808 638428

E-bost: info@miscarriageinfosuppservice.co.uk


Muma Nurture – Cymorth i bobl sy’n cael problemau gyda ffrwythlondeb, beichiogrwydd a cholled sy’n gysylltiedig â hynny trwy gwnsela, therapïau holistaidd a grwpiau cymorth.

Rhif ffôn: 07460775495 E-bost: contact@mumanurture.org.


Petals – Elusen cwnsela ar gyfer rhieni sydd wedi colli babi. Maen nhw’n cynnig cwnsela arbenigol i fenywod a phartneriaid sy’n dioddef trallod seicolegol ar ôl colli babi yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl rhoi geni.

Llinell gymorth: 0300 688 0068

E-bost: counselling@petalscharity.org


Sands – Elusen marw-enedigaeth a marwolaeth babanod newydd-anedig. Yr wybodaeth ddiweddaraf a chymorth i rieni a theuluoedd sy’n galaru yn ogystal â gweithwyr proffesiynol.

Llinell gymorth: 0207 436 5881

E-bost: helpline@sands.org.uk


Saying Goodbye – Elusen o'r DU sy'n rhoi cymorth i unrhyw un sydd wedi colli babi unrhyw bryd yn ystod beichiogrwydd, wrth roi geni neu yn ystod plentyndod.

Cysylltwch â nhw drwy'r wefan: www.sayinggoodbye.org


Simpson’s Memory Box Appeal (SiMBA) – Blychau atgofion a chymorth i rieni sydd wedi colli babi, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol.

Maen nhw’n cynnal grwpiau cymorth dros Zoom: https://www.simbacharity.org.uk/support/support-groups/


Teddy’s Wish – Cymorth i rieni a theuluoedd sy’n galaru trwy becynnau cymorth a chwnsela sy’n cael eu hariannu’n llawn.

Cysylltwch â nhw trwy eu gwefan: https://www.teddyswish.org/contact-us/


TimeNorfolk – Elusen ar gyfer rhieni sydd wedi colli plentyn yn ystod beichiogrwydd. Maen nhw’n cynnig cymorth arbenigol rhad ac am ddim i fenywod a’u partneriaid. Maen nhw’n ymdrin â’r holl broblemau sy’n ymwneud â beichiogrwydd.

Ffôn: 01603 927487

E-bost: info@timenorfolk.org.uk


Tommy’s – Gwybodaeth am iechyd i ddarpar rieni a chyllid ar gyfer ymchwil i’r hyn sy’n arwain at golli babanod yn ystod beichiogrwydd.

E-bost: midwife@tommys.org


Twins Trust – Nod Twins Trust Bereavement Support Group yw rhoi cymorth i rieni a gofalwyr rhieni genedigaethau lluosog sy’n galaru, boed hynny yn ystod beichiogrwydd, yn ystod genedigaeth neu unrhyw bryd ar ôl hynny. Mae’n ddrwg iawn gyda ni am eich colled ac rydyn ni’n gobeithio y bydd cysylltu â’r grŵp yn rhoi rhywfaint o gysur i chi.

E-bost: Bereavementsupport@twinstrust.org

Dilynwch ni: