Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd y coluddyn

Beth rydyn ni’n ei wneud

Rydyn ni’n ffisiotherapyddion arbenigol, sydd wedi cael ein hyfforddi ym maes iechyd y pelfis. Yn rhan o hyn, gallwn ni helpu gyda phroblemau yn y coluddyn fel rhwymedd, brys, poen wrth agor eich coluddyn a phryderon am eich rheolaeth dros eich coluddyn.

Mae llawer o’n cleifion yn credu bod eu coluddyn yn rheoli eu lefelau gweithgarwch, ac maen nhw’n teimlo’n bryderus wrth adael y tŷ ac yn gorfod gwybod ble mae’r tai bach agosaf. Ein nod yw eich helpu i gymryd rheolaeth o’ch coluddyn, sy’n cynnwys cryfhau cyhyrau llawr y pelfis yn aml. Gallwn ni eich helpu hefyd i ganfod ffactorau all fod yn gwaethygu eich symptomau.

I bwy mae’r gwasanaeth?

Ar hyn o bryd mae ein gwasanaeth ar gyfer unigolion dros 16 oed.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae modd i’ch meddyg teulu, bydwraig, ymgynghorydd, nyrs ymataliaeth neu therapydd arall eich atgyfeirio.

Gallwch chi hefyd atgyfeirio eich hun drwy ffonio 01443 715012 i gael ffurflen hunan-asesu

Oriau agor
Dydd Llun i ddydd Gwener 8am – 4pm

Beth i'w ddisgwyl

Bydd ein tîm gweinyddol yn cysylltu â chi naill ai dros y ffôn neu drwy’r post. Byddwch yn cael eich gwahodd i sesiwn addysg llawr y pelfis i ddechrau. Bydd y sesiwn hwn yn rhoi llawer o wybodaeth werthfawr i chi am gyhyrau llawr y pelfis a’u rôl yn iechyd y prolaps ac anymataliaeth, ynghyd â llawer o gyngor defnyddiol am sut i ddechrau cymryd rheolaeth o’ch symptomau. Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n dod i'r dosbarth cyn mynychu'r apwyntiad cyntaf. Ar ôl y dosbarth, gallwch wedyn drefnu asesiad unigol gyda ffisiotherapydd iechyd y pelfis arbenigol benywaidd, a fydd yn cael ei gynnal mewn ystafell driniaeth breifat. Efallai bydd angen gwneud asesiad o’r tu fewn i’ch gwain a/neu eich rectwm er mwyn asesu cyhyrau llawr y pelfis a phenderfynu ar y driniaeth sydd orau i chi.

Os ydych chi am i rywun fod yno yn ystod yr asesiad, rhowch wybod i ni ymlaen llaw fel bod modd i ni drefnu hyn.

Peidiwch ag aildrefnu apwyntiad yn ystod eich mislif, gan fod opsiynau eraill ar gael o ran triniaeth ac asesu bob tro ar yr adeg hon.

Dewch â rhestr gyda chi o’r moddion rydych chi’n eu cymryd ar hyn o bryd hefyd.

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â’n tîm gweinyddol trwy ffonio 01443 715012 rhwng 8:30 a 15:30. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig apwyntiadau yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Cwm Cynon, ac Ysbyty'r Tywysog Siarl. Os byddai’n well gyda chi gael eich asesu a’ch trin yn y Gymraeg, mae hyn yn bosibl ar hyn o bryd yn Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar. Gofynnwch am hyn wrth ffonio i drefnu eich apwyntiad. Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl os na allwch chi ddod i’r apwyntiad oedd wedi ei drefnu. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i ni i gynnig yr apwyntiad i rywun arall, a thrwy wneud hynny gadw ein rhestrau aros mor fyr â phosibl. Os na fyddwch chi’n dod i’r apwyntiad heb ddweud ymlaen llaw, mae’n bosibl y byddwch chi’n cael eich rhyddhau o’r gwasanaeth.

Rydyn ni’n croesawu adborth ac awgrymiadau gan gleifion am sut y gallwn ni barhau i wella ar y gwasanaeth, felly mae croeso i chi gysylltu i roi eich sylwadau neu os ydych chi am siarad ag aelod o dîm iechyd y pelfis yr Adran Ffisiotherapi.

Dolenni defnyddiol

Dogfennau Defnyddiol

Dilynwch ni: