Neidio i'r prif gynnwy

Gofal ôl-enedigol

Beth rydyn ni’n ei wneud

Rydyn ni’n ffisiotherapyddion arbenigol, sydd wedi cael ein hyfforddi ym maes iechyd y pelfis. Yn rhan o hyn, gallwn ni eich helpu gyda llawer o symptomau neu bryderon sy’n gyffredin yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl rhoi genedigaeth:

Ar ôl rhoi genedigaeth trwy’r wain, mae perinëwm rhai menywod yn hollti neu maen nhw’n profi episiotomi (toriad bach o amgylch y wain). Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu’r broses wella yn y man hwn, ac i ailhyfforddi cyhyrau llawr y pelfis er mwyn adennill neu gadw rheolaeth lawn dros eich coluddyn a’ch pledren.

Mae hefyd yn gyffredin i gyhyrau yn yr abdomen neu’r bola wahanu yn dilyn beichiogrwydd, a’r enw ar hyn yw diastasis neu DRAM. Mae hyn yn normal yn nhri mis olaf beichiogrwydd a’r wythnosau cyntaf ar ôl rhoi genedigaeth, ond dylai wella ar ei ben ei hun ar ôl ychydig Gallwn ni ddysgu ffyrdd i chi o symud eich corff er mwyn osgoi gwaethygu’r gwahaniad hwn, ynghyd ag ymarferion penodol i’ch helpu i ailhyfforddi’r cyhyrau yn yr abdomen ac adennill cryfder a rheolaeth lawn.

Efallai eich bod wedi cael trafferth gyda phoen yng ngwregys y pelfis, y pelfis, rhan isaf y cefn neu’r cluniau yn ystod eich beichiogrwydd sydd ddim wedi gwella ers rhoi genedigaeth, neu efallai fod y problemau hyn wedi dechrau ar ôl i chi roi genedigaeth i’ch babi. Gallwn ni wneud asesiad i ganfod beth sy’n achosi’r symptomau hyn, a gallwn ni ddysgu i chi sut i ailhyfforddi llawr eich pelfis, cyhyrau eich abdomen ac unrhyw fan arall sy’n cyfyngu arnoch chi.

Mae llawer o’n cleifion yn teimlo’n bryderus am wneud cymaint ag yr oedden nhw o’r blaen o ran y gwaith, ymarfer corff a rhyw ar ôl cael babi. Ein nod yw tawelu eich meddwl am ba mor hir y bydd yn cymryd i chi wella ar ôl rhoi genedigaeth, a’ch helpu i adennill cryfder a rheolaeth dros eich symptomau (neu i’ch helpu i atal unrhyw symptomau).

 

I bwy mae’r gwasanaeth?

Mae ein gwasanaeth ar gael i unrhyw fenyw sydd wedi bod yn feichiog yn ddiweddar ac sydd gyda symptomau corfforol, neu sydd gyda phryderon am ddychwelyd at y ffordd o fyw oedd gyda nhw cyn rhoi genedigaeth.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall, ond mae’n rhaid i’ch meddyg teulu, ymgynghorydd, bydwraig neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall eich anfon ymlaen atom ni i ddefnyddio ein gwasanaeth.

Gallwch chi hefyd atgyfeirio eich hun (os nad oes cymhlethdodau eraill) drwy ffonio 01443 471515 i gael ffurflen hunan-asesu.

 

Oriau agor
8am – 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener

 

Beth i'w ddisgwyl

Bydd ein tîm gweinyddol yn cysylltu â chi naill ai dros y ffôn neu drwy’r post. Yn dibynnu ar y rheswm dros gael eich anfon ymlaen aton ni, fe fyddwch chi naill yn cael apwyntiad un wrth un gyda ffisiotherapydd iechyd y pelfis arbenigol, neu cewch chi ddolen fideo yn gyntaf i sesiwn addysg mewn grŵp ar-lein. Yn y fideo hwn, byddwch chi’n cael gwybodaeth ynglŷn â hunangymorth i famau newydd . Bydd yn rhoi llawer o wybodaeth werthfawr i chi am gyhyrau llawr y pelfis a sut i’w cryfhau’n llawn, eu rôl yn iechyd y bledren a’r coluddyn, ynghyd â llawer o gyngor defnyddiol am adennill y cryfder a’r ffitrwydd oedd gyda chi cyn i chi fynd yn feichiog.

Ar ôl gwylio’r fideo hwn, bydd modd i chi drefnu asesiad unigol gyda ffisiotherapydd iechyd y pelfis arbenigol benywaidd, a fydd yn cael ei gynnal mewn ystafell driniaeth breifat. Efallai bydd angen gwneud asesiad o’r tu fewn i’ch gwain, er mwyn asesu cyhyrau llawer y pelfis a phenderfynu ar y driniaeth sydd orau i chi. Os cawsoch chi hollt 3edd neu 4edd radd yn y perinëwm wrth roi genedigaeth, efallai byddwn ni’n awgrymu asesiad o’ch rectwm hefyd er mwyn gwneud yn siŵr fod y man wrthi’n gwella a bod digon o gryfder a rheolaeth gyda chi dros y man i osgoi pasio dŵr neu garthion heb eisiau (ymataliaeth).

Os ydych chi am i rywun fod yno yn ystod yr asesiad, rhowch wybod i ni ymlaen llaw fel bod modd i ni drefnu hyn.

Peidiwch ag aildrefnu apwyntiad yn ystod eich mislif, gan fod opsiynau eraill ar gael o ran triniaeth ac asesu bob tro ar yr adeg hon.

Dewch â rhestr gyda chi o’r moddion rydych chi’n eu cymryd ar hyn o bryd i’ch apwyntiad cyntaf.

 

Cysylltwch â ni

Gallwch chi gysylltu â’n tîm gweinyddol trwy ffonio 01443 471515. Ar hyn o bryd rydyn ni’n cynnig apwyntiadau yn Ysbyty Cwm Cynon yn Aberpennar ac yn Ysbyty Tywysoges Cymru.

Os byddai’n well gyda chi gael eich asesu a’ch trin yn y Gymraeg, mae hyn yn bosibl ar hyn o bryd yn Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar ac yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Gofynnwch am hyn wrth ffonio i drefnu eich apwyntiad.

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl os na allwch chi ddod i’r apwyntiad oedd wedi ei drefnu. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i ni i gynnig yr apwyntiad i rywun arall, a thrwy wneud hynny gadw ein rhestrau aros mor fyr â phosibl. Os na fyddwch chi’n dod i’r apwyntiad heb ddweud ymlaen llaw, mae’n bosibl y byddwch chi’n cael eich rhyddhau o’r gwasanaeth.

Rydyn ni’n croesawu adborth ac awgrymiadau gan gleifion am sut y gallwn ni barhau i wella ar y gwasanaeth, felly mae croeso i chi gysylltu i roi eich sylwadau neu os ydych chi am siarad ag aelod o dîm iechyd y pelfis yr Adran Ffisiotherapi.

 

Dolenni defnyddiol

Dogfennau defnyddiol

 

Dilynwch ni: