Neidio i'r prif gynnwy
Lisa Sheehan

Ymarferydd PIPYN Merthyr

Amdanaf i

Ymarferydd PIPYN Merthyr

Helo! Lisa Sheehan ydw i ac rwy'n gweithio fel Ymarferydd Cynorthwyol Deieteg i Dîm Plant a Theuluoedd PIPYN Merthyr Tudful. Ymunais i â Thîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ym mis Gorffennaf 2022.

Rydw i wrth fy modd yn helpu a chefnogi newidiadau cadarnhaol i fwyd, maeth a gweithgaredd corfforol i blant a theuluoedd ym Merthyr Tudful ac i alluogi'r gymuned i fyw bywyd iachach a fydd yn gwella eu lles.

Rwy'n mwynhau bod yn yr awyr agored a threulio amser o ansawdd gyda fy nheulu, a fy hoff rysáit iach yw byrgyrs porc ac afal gyda slaw afal cawslyd.

Dilynwch ni: