Neidio i'r prif gynnwy

Swyddfa'r Crwner

Mewn rhai achosion, cyfeirir marwolaeth at y crwner. Mae'r crwner yn swyddog annibynnol sydd â'r cyfrifoldeb statudol dros ymchwilio cyfreithiol i gategorïau penodol o farwolaethau. Mae gan y crwner gefndir naill ai fel meddyg neu gyfreithiwr , ac yn cael ei gefnogi gan dîm o swyddogion y crwner, sy'n ymchwilio i unrhyw farwolaethau sy'n cael eu cyfeirio at y crwner.

Mae llawer o resymau eraill pam y gall meddyg gyfeirio marwolaeth at y crwner. Os yw eich perthynas/ffrind wedi marw yn yr ysbyty, bydd swyddfa'r archwilydd meddygol yn rhoi gwybod i chi pan fydd yn ffonio, os oes angen atgyfeiriad crwner, unwaith y bydd wedi siarad â'r clinigwr.

Pan fydd marwolaeth wedi cael ei adrodd i'r Crwner, rhaid i'r Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau lleol aros i'r Crwner orffen ei ymholiadau cyn y gellir cofrestru'r farwolaeth.  Bydd gwaith papur wedyn yn cael ei gyhoeddi i ganiatáu i'r angladd fynd yn ei flaen.  Mewn rhai achosion, gall y Crwner agor cwêst sy'n ymchwiliad barnwrol i'r farwolaeth.

Unwaith y bydd y crwner wedi derbyn yr atgyfeiriad, bydd un o swyddogion y crwner yn cysylltu â chi o fewn 48 awr i drafod yr atgyfeiriad gyda chi ac i wrando ar unrhyw farn sydd gyda chi. Byddan nhw’n gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gyda chi am y broses goronaidd, eich cynghori ar y camau nesaf a'ch cefnogi.

Os yw'r crwner yn fodlon nad oes angen ymchwiliad i farwolaeth eich perthynas/ffrind, bydd yn cynghori'r meddyg i fwrw ymlaen ag ysgrifennu'r Dystysgrif Feddygol o Achos y Farwolaeth. Mae hyn yn golygu y gallwch fwrw ymlaen â chofrestru unwaith y bydd y meddyg wedi cwblhau'r dystysgrif.

Weithiau, efallai y bydd y crwner yn teimlo bod angen ymchwiliad pellach, a gall yr ymchwiliad hwn gynnwys cwêst. Pan fydd hyn yn digwydd, fydd ddim angen i'r meddyg roi'r Dystysgrif Feddygol o Achos y Farwolaeth mwyach a bydd Swyddfa'r Crwner yn cymryd drosodd pob agwedd ar waith papur sy'n ymwneud â'r farwolaeth.

Mae cwêst yn wrandawiad llys cyhoeddus sy’n cael ei gynnal gan y crwner i benderfynu pwy sydd wedi marw, sut, pryd a ble y digwyddodd y farwolaeth. Gall hyn fod gyda neu heb yr angen am archwiliad post mortem o'ch perthynas/ffrind.

Bydd swyddogion y crwner yn egluro'n glir i chi beth sy'n digwydd nesaf ac yn egluro'r weithdrefn os bydd hyn yn digwydd, yn ogystal â thrafod gyda chi benderfyniad y crwner ynghylch a oes angen archwiliad post mortem.
 
Gall mynd trwy gwêst beri gofid a gall fod yn gymhleth ar adeg sydd eisoes yn anodd i chi a'ch teulu. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, gweler y wybodaeth at asiantaethau cymorth ar adran ar wahân o'n canllawiau cymorth profedigaeth.

Dilynwch ni: