Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth ar gyfer Profedigaeth

Fel Bwrdd Iechyd, rydym yn deall fod y cyfnod yn dilyn marwolaeth anwylyd yn yr ysbyty yn gyfnod hynod drist i deulu a ffrindiau. Ein nod yw eich cefnogi trwy'r amser anodd sydd o'ch blaen a rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gofrestru marwolaeth. Mae rhai pethau y mae angen i chi eu gwneud i baratoi ar gyfer hyn.

Pan fyddwch yn teimlo’n barod, bydd angen i chi gysylltu â’n Tîm Profedigaeth yn yr ysbyty perthnasol:

  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg: 01443 443249
  • Ysbyty'r Tywysog Siarl: 01685 728625
  • Ysbyty Tywysoges Cymru: 01656 754088
  • Ysbyty Cwm Rhondda (YCR): 01443 430022 Estyniad 72644
  • Ysbyty Cwm Cynon (YCC): 01443 715217 

Bydd y tîm yn egluro beth fydd yn digwydd nesaf. Bydd y tîm yn gofyn i chi am rai manylion am y person a fu farw. Bydd yn gofyn am eich manylion, eich perthynas â'r ymadawedig ac yn cadarnhau mai chi yw'r person sy'n trefnu'r angladd. Bydd hefyd yn gofyn i chi os oes gennych drefnydd angladdau o'ch dewis.

Mae'r tîm ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm. Mae’r timau yn ein hysbytai cymunedol (YCR ac YCC) ar gael rhwng 9am a 12.30pm. Nid yw'r Swyddfa Profedigaeth ar gael dros y penwythnos nac ar Ŵyl y Banc. Os nad ydych yn gallu siarad â rhywun, gadewch neges a bydd y tîm yn cysylltu â chi.

Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol
Os yw'ch perthynas/ffrind wedi marw gartref neu yn y gymuned
Dilynwch ni: