Neidio i'r prif gynnwy

Gweld rhywun yr oeddech yn gofalu amdano

Efallai y bydd adegau lle gallai fod yn anodd gweld rhywun yr oeddech chi’n gofalu amdano tra byddan nhw yn ein gofal.  Os yw eu gweld yn rhywbeth sy’n bwysig i chi, byddwn ni’n sicrhau y byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ei wneud i’w hwyluso.

Os does dim modd gweld eich perthynas/ffrind yn yr ysbyty, neu ein bod chi’n teimlo y byddai’n amhriodol neu'n ofidus, bydd y trefnydd angladdau o'ch dewis yn gallu eich cynorthwyo gydag opsiynau ar gyfer gwneud cof yn y ffordd fwyaf priodol.

Os yw'r person ymadawedig yn cael ei gymryd am amlosgiad uniongyrchol, byddwn ni’n ymdrechu i drefnu amser i chi ei weld, os dymunwch, ar gais cyn iddo gael eu casglu.

Dilynwch ni: