Neidio i'r prif gynnwy

Y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith

Mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn wasanaeth sy'n cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ac mae'n wasanaeth sy'n eich galluogi i adrodd am farwolaeth i'r rhan fwyaf o sefydliadau'r llywodraeth ar yr un pryd.

Mae hyn yn cynnwys y DVLA, y Swyddfa Basbort, holl wasanaethau'r Awdurdod Lleol, holl wasanaethau'r Adran Gwaith a Phensiynau, megis Pensiynau'r Wladwriaeth neu Gymhorthdal Incwm, ac unrhyw wasanaethau Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC). Bydd angen rhoi gwybod i fanciau ar wahân a bydd angen copi o'r dystysgrif marwolaeth.

Ar adeg cofrestru, gall y cofrestrydd roi cyfeirnod unigryw i chi a fydd yn cael ei ddefnyddio i hysbysu gwahanol adrannau'r llywodraeth ac awdurdodau lleol am y farwolaeth. Bydd y cofrestrydd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi yn ystod eich apwyntiad.

Gallwch naill ai ffonio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith neu lenwi ffurflen ar-lein, ond rhaid gwneud hyn o fewn 28 diwrnod o gael eich cyfeirnod unigryw gan y cofrestrydd. I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi gael:

  • rhif yswiriant gwladol y person ymadawedig
  • manylion unrhyw fudd-daliadau neu wasanaethau y gallent fod wedi bod yn eu derbyn
  • eu trwydded yrru
  • eu pasbort

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith drwy www.gov.uk neu ar 0800 085 7308.

Dilynwch ni: