Neidio i'r prif gynnwy

Ymdopi â galar a cholled

Byddwn ni i gyd yn profi galar yn ein ffordd ein hun. Fodd bynnag, mae rhai teimladau a ffyrdd o ymateb sy’n eithaf cyffredin:

  • Teimlo'n ddideimlad
  • Teimlo'n ddagreuol iawn un funud yna methu crio’r munud nesaf
  • Dicter tuag at y sefyllfa neu tuag at eraill
  • Pryder i adael y tŷ neu i weld pobl rydych chi'n eu hadnabod
  • Teimlo'n euog a cheisio beio'ch hun y gallech fod wedi atal eu marwolaeth rywsut
  • Heriau tuag at eich ffydd a/neu gredoau
  • Unigrwydd, iselder neu deimladau o fethu ymdopi
  • Teimlo’n unig - Sut y gallan nhw feiddio gadael, beth fyddwch chi'n ei wneud nawr?
  • Bron dim awydd i wneud unrhyw beth, a gall cymryd gofal sylfaenol o’ch hun fod yn heriol hyd yn oed
  • Meddwl y gallwch eu clywed neu anghofio eu bod wedi mynd, yna sylweddoli'r gwir yn sydyn

Mae galaru yn broses raddol a all gymryd amser hir; mae’n bwysig eich bod yn rhoi amser i chi eich hun i brosesu beth sydd wedi digwydd ac i ofalu amdanoch chi eich hun ar yr adeg hon.

Gall galar ddod mewn tonnau weithiau; gallwch chi deimlo’n iawn un funud cyn teimlo’n isel iawn y funud nesaf, neu gallwch chi gael diwrnodau da a diwrnodau drwg. Weithiau, os oedd perthynas heriol gyda chi â’r person sydd wedi marw, gall fod yn fwy anodd i chi yn hytrach nag yn llai anodd - efallai byddwch chi’n galaru am y berthynas roeddech chi’n ei dymuno ynghyd â galaru am y person sydd wedi marw.

Os ydych chi’n teimlo bod angen cymorth pellach arnoch gyda'ch iechyd meddwl, dylech estyn allan at eich meddyg teulu a fydd yn gallu gwrando ar eich teimladau ac asesu eich anghenion yn briodol.

Dilynwch ni: