Neidio i'r prif gynnwy

Ariannu angladd

Yn anffodus, nid yw cost angladd yn rhywbeth y mae pawb yn paratoi ar ei gyfer, a gall fod yn eithaf gofidus i'r person sy'n ceisio ei drefnu. Unwaith y bydd banc yn cael gwybod am farwolaeth rhywun, yr unig beth y gellir ei dalu allan o'u cyfrif yw cost angladd.

Gallwch ofyn am angladd sylfaenol gan eich trefnydd angladdau lleol, gan gynnwys opsiwn amlosgi uniongyrchol a allai helpu i gadw costau mor isel â phosibl. Mae'r holl opsiynau hyn yn cael eu cynnal gyda'r urddas a'r parch mwyaf i'r ymadawedig, ond ni fyddai gwasanaethau ychwanegol fel ceir angladd, blodau ac ati yn cael eu cynnwys.

Rydym yn gwerthfawrogi efallai na fyddwch yn ymwybodol o gyllid yr unigolyn ac efallai nad ydych erioed wedi trafod arian gyda nhw o'r blaen. Mae’n bwysig i nodi a ellir talu costau angladd cyn gynted â phosibl. Rhowch wybod i’r Swyddog Profedigaeth os oes unrhyw amheuaeth gyda chi. Mewn rhai amgylchiadau, mae grant a all helpu gyda chost angladd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: www.gov.uk/funeral-payments.

Mae ein tîm profedigaeth ar gael i drafod eich amgylchiadau a'ch cefnogi ar yr adeg anodd hon.

Dilynwch ni: