Neidio i'r prif gynnwy

PALS (Gwasanaeth Cymorth a Chyswllt Cleifion)

Sut gall y gwasanaeth hwn eich cefnogi?

Mae'r Gwasanaeth Cymorth a Chyswllt Cleifion (PALS) yn darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth cyfrinachol am ddim. Gallwn eich helpu gydag unrhyw bryderon neu ymholiadau sydd gyda chi am eich gofal chi, gofal eich anwyliaid neu ofal rywun rydych yn eu cefnogi, gan ddarparu cymorth pan fyddwch ei angen, neu ddim yn gwybod ble i droi.

Gall bod yn sâl neu ofalu am rywun arall fod yn bryderus, felly mae'n helpu pan fydd rhywun i droi ato am gyngor a chefnogaeth.

Gall PALS eich helpu i ddatrys unrhyw bryderon a all godi a bydd yn gweithio gyda staff a rheolwyr i drafod atebion cyflym i broblemau neu gwestiynau.

Mae PALS i bawb, p'un a ydych yn defnyddio ein gwasanaethau neu'n gofalu am rywun sy'n eu defnyddio.

Dydyn ni ddim yn gallu cynnig cwnsela, diagnosis nac unrhyw gyngor meddygol, ond gallwn eich cefnogi chi os ydych yn ei chael hi'n anodd defnyddio neu ddeall unrhyw un o'n gwasanaethau.

Dydy PALS ddim yn disodli gweithdrefn cwynion ffurfiol yr ymddiriedolaeth.

Efallai y byddwch chi’n dewis siarad â PALS yn gyntaf i geisio datrys problem cyn neu yn lle gwneud cwyn ffurfiol.

Yn y lle cyntaf, bydd PALS yn annog pobl i drafod eu pryderon gyda'r person neu'r tîm sy'n darparu eu gofal.

Os ydych chi’n dal yn anhapus ar ôl cysylltu â PALS ac eisiau gwneud cwyn ffurfiol, gall PALS eich helpu i gychwyn y weithdrefn cwynion neu gallwch gysylltu â’r tîm cwynion eich hun ar 01443 744915 neu drwy e-bost ar: CTHB.Concerns@wales.nhs.uk.

 

I gysylltu â thimau PALS ar draws y Bwrdd Iechyd:

Dilynwch ni: