Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Atgyfeirwyr

Ar hyn o bryd, mae gennym ni lwybrau atgyfeirio ychydig yn wahanol ar gyfer Merthyr/RhCT a Phen-y-bont ar Ogwr, er mewn cysylltiad â defnyddwyr gwasanaeth ac asiantaethau eraill, rydym yn bwriadu uno ac ail-lansio llwybr atgyfeirio newydd yn ystod 2024.  Gweler isod manylion am ein proses gyfredol:

Ym Merthyr/RhCT

Mae'n well gennym ni i atgyfeiriadau ddod oddi wrth y gweithwyr proffesiynol sy'n adnabod y plentyn yn dda.  Ar gyfer plant cyn oed ysgol, bydd hyn fel arfer yn atgyfeiriad ar y cyd gan y teulu ac Ymwelydd Iechyd y plentyn.  Ar gyfer plant oed ysgol, bydd hyn fel arfer yn atgyfeiriad ar y cyd gan y teulu ac ysgol mae’r plentyn yn mynd i.  Ar gyfer atgyfeiriadau sydd wedi cael eu gwneud gan weithwyr proffesiynol eraill, byddwn bob amser angen gwybodaeth gan y lleoliad addysg i gefnogi'r wybodaeth atgyfeirio.

Ar gyfer plant a phobl ifanc nad ydynt yn mynd i ysgol, byddwn yn ystyried atgyfeiriad sy’n cael eu gwneud ar y cyd gan y teulu a gweithiwr iechyd/addysg/gofal cymdeithasol arall.

Gallwch lawrlwytho ein ffurflen atgyfeirio yma: Ffurflen Atgyfeirio Tîm Niwroddatblygiadol

Efallai y bydd y ffurflenni canlynol yn ddefnyddiol i chi eu lawrlwytho a’u llenwi hefyd, er mwyn cefnogi eich atgyfeiriad a rhoi gwybodaeth ychwanegol i ni:

E-bostiwch y ffurflen wedi'i chwblhau at: CTT_ND_Service@nhs.wales.uk.

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae atgyfeiriadau ar gyfer plant cyn oed ysgol yn cael eu wneud drwy ein proses PAD amlddisgyblaethol.  Trafodwch hyn ymhellach gydag Ymwelydd Iechyd y plentyn.

Mae atgyfeiriadau ar gyfer plant oed ysgol yn cael eu gwneud trwy ein llwybr niwroddatblygiadol i ysgolion.  Trafodwch hyn ymhellach gydag ysgol y plentyn.  Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar lwybr ar gyfer plant oed ysgol nad ydynt yn mynd i ysgol.

Dilynwch ni: