Neidio i'r prif gynnwy

Pam ydych chi'n cwtogi ar eich canolfannau brechu cymunedol o bump i dair?

Erbyn hyn, rydyn ni’n dechrau ar gyfnod newydd o’r rhaglen frechu rhag COVID-19 ac yn mynd ati i gynllunio sut a ble byddwn ni’n brechu ein cymunedau yn y dyfodol.

Ers dechrau’r rhaglen hon, rydyn ni wedi gweithio gyda’n tri awdurdod lleol, wrth iddyn nhw ganiatáu i ni droi eu lleoliadau’n ganolfannau brechu cymunedol.  Mae’r partneriaethau hynny wedi bod yn hollbwysig er mwyn sicrhau llwyddiant ysgubol y rhaglen frechu hon.

Er mai ein prif flaenoriaeth oedd cynnig y brechlyn yn gyflym ac yn ddiogel er mwyn diogelu ein cymunedau, rydyn ni bob amser wedi bod yn ymwybodol bod pedair o’n pum canolfan frechu’n ganolfan hamdden bwysig yn eu hardal.

Y nod hirdymor ers y cychwyn cyntaf oedd cyrraedd y pwynt yn y rhaglen frechu pan fyddai modd i ni ddychwelyd ein canolfannau at ein hawdurdodau lleol, fel bod modd i’n cymunedau ddefnyddio'r lleoliadau at eu gwir ddiben.

Diolch i gynifer ohonoch chi ddaeth i gael eich brechu rhag COVID-19. Erbyn hyn, rydyn ni wedi cyrraedd y garreg filltir honno yn y rhaglen ac wedi cyrraedd y pwynt lle gallwn ni ddychwelyd dwy o'r pum canolfan frechu cymunedol.

Dilynwch ni: