Neidio i'r prif gynnwy

Pa rai byddwch chi'n eu dychwelyd?

Byddwn ni’n dychwelyd ein canolfan frechu gymunedol yn Rhondda ac yn Aberpennar.

Bydd y ddwy yn cael eu dychwelyd at CBS Rhondda Cynon Taf.

Roedd ein canolfan yn Rhondda yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, ac roedd ein canolfan yn Aberpennar yng Nghanolfan Bowlio Dan Do Cwm Cynon.

Bydd y ddwy’n cau (fel canolfannau brechu cymunedol) ddydd Gwener 18 Mawrth ac yn dychwelyd yn swyddogol at CBS RhCT ddiwedd y mis hwn.

Bydd pob aelod o staff Cwm Taf Morgannwg oedd yn gweithio yn un o'r ddau leoliad yn parhau i weithio ar y rhaglen frechu ac yn symud i rywle arall.

Dilynwch ni: