Neidio i'r prif gynnwy

Cefais i fy mrechu yn un o'r ddwy ganolfan honno ac rwy'n gymwys i gael dos atgyfnerthu'r gwanwyn. I ble bydda i'n mynd i'w chael?

Byddwn ni’n cysylltu â chi gydag apwyntiad ar gyfer dos atgyfnerthu’r gwanwyn. 

Os cawsoch chi bob un o’ch brechiadau, neu rai ohonyn nhw, yn ein canolfan yn Rhondda neu yn Aberpennar, byddwch chi’n cael gwahoddiad i ddod i un o'n tair canolfan frechu sy'n weddill ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ym Merthyr Tudful neu yn Llantrisant.

Rydyn ni’n bwriadu agor dau glinig ‘brechu yn y car’ newydd erbyn diwedd mis Mawrth.  Bydd y rhain yn Ysbyty'r Seren (Pen-y-bont ar Ogwr) ac ym Mharc Iechyd Prifysgol Keir Hardie (Merthyr Tudful).  Byddwch chi’n cael cyfle i fynd i un ohonyn nhw.

Dilynwch ni: