Neidio i'r prif gynnwy

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Cyflwyniad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)  

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yw gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru trwy ofyn 44 o Gyrff Cyhoeddus (https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-02/spsf-1-canllaw-craidd.PDF) gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau.  

Rhaid i'r 44 o gyrff hyn hefyd ystyried sut maen nhw’n gweithio'n unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Yn y Ddeddf hon, mae “datblygu cynaliadwy” yn golygu bod rhaid i‘r corff weithredu mewn modd sy‘n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb niweidio gallu cenedlaethau‘r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.  

Mae'r gyfraith yn torri tir newydd a Chymru yw’r unig genedl yn y byd i gyflwyno Deddf o'r fath. Dywedodd y Cenhedloedd Unedig “Beth mae Cymru’n ei wneud heddiw, bydd y byd yn ei wneud yfory.” 

Mae'r Ddeddf wedi rhoi saith nod rhyng-gysylltiedig ar waith, sydd i gyd yn cysylltu â'i gilydd. Mae’r rhain yn sicrhau bod pob un o'r 44 o Gyrff Cyhoeddus yn gweithio tuag at y nod cyffredin o gyflawni Cymru rydyn ni i gyd ei eisiau a Chymru rydyn ni’n falch ohoni.  

Animeiddiad Bywyd Megan 

Mae'r animeiddiad byr hwn yn esbonio'r effaith gadarnhaol y bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn ei chael drwy gydol bywyd Megan ac yn dweud mwy wrthych am beth rydyn ni’n ei wneud a pham.

 

 

Mae'r Ddeddf yn gosod tasg i’r 44 o Gyrff Cyhoeddus gynllunio a darparu eu gwasanaethau gan ddefnyddio pum ffordd o weithio. Bydd y rhain yn sicrhau eu bod nhw’n gynaliadwy ac yn helpu i gyflawni saith nod y Ddeddf. Dyma’r pum ffordd o weithio:  

 

Hirdymor – Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd 

 

Atal – Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion

 

Integreiddio – Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill

 

Cydweithio – Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant

 

Cynnwys – Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu

Bydd gweithio fel hyn yn cyfrannu at weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac yn helpu i gyflawni Cymru Iachach 

Mae mwy o fanylion am y Ddeddf a'i gofynion i'w gweld yn y Canllaw Hanfodion

Am fwy o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ewch i: https://llyw.cymru/deddf-llesiant-cenedlaethaur-dyfodol-cymru-2015-canllawiau