Neidio i'r prif gynnwy
Rachel Rowlands

Community

Amdanaf i

Community

Brodor balch o Ynysybwl, yn Rhondda Cynon Taf, yw Rachel. Mae hi wedi gweithio yn y Trydydd Sector ers 27 mlynedd, yn bennaf gydag elusennau a sefydliadau sy’n ymwneud â gwella ansawdd bywyd pobl hŷn. Ers ymuno ag Age Connects Morgannwg (ACM) fel Prif Weithredwr yn 2005, mae hi wedi arwain twf ac arallgyfeirio’r elusen mewn ymateb i ddyheadau newidiol pobl hŷn, cymunedau a pholisi cenedlaethol; yn fwyaf diweddar cyflwyno prosiect trawsnewid gwerth miliynau o bunnoedd o’r enw Cynon Linc, hwb cymunedol sy’n cynnwys gwaith rhyng-genhedlaeth a rhyngasiantaethol o ofal sylfaenol i gyngor tai, o sesiynau chwarae i blant bach i weithgareddau therapiwtig ar gyfer y meddwl, y corff a’r enaid.

Yn ehangach, mae Rachel yn ddylanwadol fel arweinydd trydydd sector drwy grwpiau cydweithredol cenedlaethol amrywiol megis Cynghrair Henoed Cymru a Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector. Mae gwaith cenedlaethol a rhanbarthol Rachel wedi cynnwys Cadeirydd Bwrdd Cenedlaethol Gofal a Thrwsio Cymru a Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg (RPB), fel Cynrychiolydd cenedlaethol y Trydydd Sector. Fel ei Gadeirydd a’r cynrychiolydd Trydydd Sector cyntaf i gael ei hethol yn Gadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, arweiniodd Rachel y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gyflawni ei Raglen Drawsnewid ochr yn ochr â rhaglen o gyllid Gofal Integredig. Ymgyrchodd Rachel hefyd am un Asesiad o Anghenion Poblogaeth ac Anghenion Lles i gyflawni gofynion Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, gan arwain at raglen ymgysylltu ‘Hear Our Voices’. Roedd ei chyfnod fel Cadeirydd yr RPB hefyd yn rhychwantu bron y cyfan o’r pandemig COVID-19 ac o’r herwydd, bu’n arwain y Ffrwd Waith Diogelu’r Rhaglen Profi Olrhain Diogelu (TTP) COVID-19 ar gyfer y rhanbarth.