Neidio i'r prif gynnwy
Lynda Thomas

Busnes Corfforaethol

Amdanaf i

Busnes Corfforaethol

Lynda Thomas yw Prif Weithredwr Cymorth Canser Macmillan ac mae hi yn y swydd hon ers mis Mawrth 2015. Ymunodd â Macmillan yn 2001, gan arwain yr adrannau cyfathrebu a chodi arian.  

Mae Lynda yn ymroddedig i greu amgylchedd lle mae cydweithwyr, gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr oll yn cael eu grymuso a'u cefnogi i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu pobl â chanser.  Mae hi hefyd yn angerddol am degwch, amrywiaeth a chynhwysiant, ac yn gwneud popeth o fewn ei gallu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd sy'n bodoli.

Mae Lynda yn teimlo'n gryf am sicrhau bod pobl â chanser yn cael y cymorth sy'n iawn iddyn nhw fel y gallan nhw fyw bywyd mor llawn â phosibl. 

Yn wreiddiol, o Borthcawl, mae Lynda yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn ffan mawr o dîm rygbi Cymru!