Neidio i'r prif gynnwy
Jonathan Morgan

Cadeirydd

Amdanaf i

Cadeirydd

Cyn ymgymryd â swydd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, roedd Jonathan yn Gadeirydd Cymdeithas Tai Hafod yn Ne Cymru, sy’n darparu tai cymdeithasol ac amrywiaeth o wasanaethau gofal cymdeithasol ar draws Caerdydd, y Fro, Pen-y-bont ar Ogwr a RhCT.

Roedd hefyd yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru a gwasanaethodd ar Bwyllgor Archwilio’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Ar ôl gadael Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011, mae wedi treulio’r 12 mlynedd diwethaf yn gweithio ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a thai mewn amrywiaeth o rolau lefel uwch ac anweithredol.

Mae Jonathan yn angerddol am y potensial sydd gan sefydliadau i gydweithio’n well ac mae’n rhoi gwerth enfawr ar y posibilrwydd o gydweithio. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn gwasanaethau iechyd meddwl, ar ôl cyflwyno deddfwriaeth i wella gwasanaethau yng Nghymru. 

Jonathan yw Cadeirydd y Pwyllgor Taliadau a Thelerau Gwasanaeth.


Meddai Jonathan:  “Rwy'n falch iawn o ymgymryd â rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad wrth i ni geisio adeiladu cymunedau iachach gyda'n gilydd a darparu gofal o ansawdd i'n holl breswylwyr. Bydd ein staff yn ganolbwynt i'm gwaith, a byddaf yn cefnogi ac yn gwrando ar eu barn wrth inni gyflawni'r agenda. Rwyf bob amser wedi credu bod gennym ni’r gweithlu hyfforddedig, medrus a thosturiol gorau unrhyw le yn y byd, a dim ond drwy weithio gyda nhw y byddwn ni’n darparu'r gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl.

Mae gen i gefndir ym maes tai a gofal cymdeithasol ac mae'r partneriaethau rydyn ni'n eu meithrin gyda'r rheini y tu hwnt i'r bwrdd iechyd yn bwysig. Bydd gweithio'n agosach gyda'n tri awdurdod lleol, gan integreiddio ein gwasanaethau i gynllunio'n well a darparu gofal yn agosach at adref, yn flaenoriaeth. Rydyn ni hefyd yn ffodus bod gennym ni drydydd sector sefydledig ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg y byddaf am ddatblygu ein hagenda iechyd cyhoeddus gydag ef.

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod hwn yn gyfnod heriol i'r GIG ond gyda'r her honno daw cyfle i ailystyried sut rydyn ni'n darparu'r gofal gorau posibl, a sut rydyn ni'n helpu pobl i fyw bywydau iachach. Rwy'n edrych ymlaen at fwrw ati.