Neidio i'r prif gynnwy
Geraint Hopkins

Aelod Annibynnol sy'n cynrychioli awdurdodau lleol

Amdanaf i

Aelod Annibynnol sy'n cynrychioli awdurdodau lleol

Daw Geraint â 18 blynedd o brofiad i’r Bwrdd o weithio gydag awdurdodau lleol, ac yntau wedi bod yn gynghorydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Treuliodd naw mlynedd o’r cyfnod hwnnw yn aelod o’r Cabinet, gyda phortffolio dros wasanaethau i blant, ac yn ddiweddarach, dros wasanaethau cymdeithasol i oedolion. 

Yn ogystal â hynny, roedd yn Gadeirydd Bwrdd Rhiant Corfforaethol Rhondda Cynon Taf, ac yn Ddirprwy Lefarydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol dros Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Yn ddiweddar, mae Geraint hefyd wedi ymgymryd â rôl Clerc a Swyddog Priodol Cyngor Cymuned Llantrisant.

Yn ei amser rhydd, mae’n cyfeilio i gôr ac yn canu’r organ mewn eglwys.

Ymunodd Geraint â’r Bwrdd ym mis Ionawr 2022.