Neidio i'r prif gynnwy

Plant Ysgol y Graig yn ymweld â'r ardd goffa yn Ysbyty'r Tywysog Siarl

Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi mwynhau bore gwych gyda phlant o Ysgol y Graig yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yr wythnos diwethaf fel rhan o Wythnos Genedlaethol Garddio Plant.

Ymwelodd plant Blwyddyn 2, Luna, Scarlett a Mia â'n Gardd Goffa Covid siâp calon yn Ysbyty'r Tywysog Siarl a phlannu blodau melyn, sy’n cyd-fynd â thema Covid yr ardd.

Yn ystod eu hymweliad, cafodd y plant gyfle i ofyn llawer o gwestiynau am yr ardd goffa, yn ogystal â chael gêm hwyliog o 'bingo iechyd' a oedd yn cefnogi eu dysgu ar fwyta'n iach.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o galendr o ddigwyddiadau y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn eu trefnu mewn partneriaeth â Tilbury Douglas Construction, ein prif gontractwyr ar gyfer rhaglen adnewyddu Ysbyty'r Tywysog Siarl.

Dywedodd Kelly Edwards, Rheolwr Gwerth Cymdeithasol Tilbury Douglas: “Roedd yn hyfryd croesawu'r plant i Ysbyty'r Tywysog Siarl i'w cynnwys yn y prosiect yng nghanol eu cymuned leol.  Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos gydag Ysgol y Graig dros y 18 mis diwethaf ac wedi datblygu partneriaeth wych.  Mae annog y genhedlaeth nesaf o weithwyr adeiladu yn rhan hanfodol o'n rhaglen Budd i’r Gymuned, ac mae cyfuno hynny ag addysg iechyd yn arwain at sgyrsiau ysbrydoledig gyda phlant a phobl ifanc Merthyr Tudful.”

Ychwanegodd Mrs Delyth Goodall, a aeth gyda'r plant o Ysgol y Graig i'r Ysbyty: “Drwy gynnwys ein plant yn y gwaith o gynnal a chadw'r ardd goffa, roedd yn eu galluogi i weld yn uniongyrchol sut y gall eu cymorth wneud gwahaniaeth i fywydau'r rhai sy'n byw yn ein cymuned. Roedden nhw’n gallu gwneud cysylltiad â phwysigrwydd cydweithio a datblygu eu sgiliau cymdeithasol eu hunain.  Cawsant gyfle i ddysgu sgiliau newydd, datblygu'r wybodaeth sydd gyda nhw eisoes a dangos chwilfrydedd.”

Roedd y plant wrth eu bodd o fod wedi cymryd rhan yn y prosiect, meddai Luna, sy'n chwech oed: “Cefais amser gwych yn plannu'r blodau melyn i gyd ac ennill gwobr bingo. Cawsom hwyl yn dysgu am gadw'n iach.  Rydw i'n mynd i fynd â Mam a Dad i'r ysbyty i weld gardd y galon.”

Dywedodd Scarlett, sy'n saith mlwydd oed: “Rydyn ni’n lwcus i gael ein dewis i helpu i blannu'r ardd.  Rwy'n gobeithio y bydd ein blodau haul yn tyfu mor dal ag y bydd y coed a dwi’n gobeithio y bydd teuluoedd yn mwynhau eistedd yn yr ardd. Roeddwn i wedi mwynhau helpu Bridie, Kelly a Sharon.”

Dywedodd Mia, sy’n saith mlwydd oed: “Diolch am roi’r cyfle i mi helpu i blannu'r blodau.  Hoffwn ddychwelyd i helpu eto yn fuan.”

Ychwanegodd Delyth: “Diolch i chi unwaith eto am roi profiad hyfryd i ni.”

Mae ein gardd ar gael i unrhyw un a hoffai ymweld, neu efallai blannu blodyn er cof am rywun annwyl. Mae wedi'i leoli i'r dde o brif fynedfa'r Ysbyty. Os hoffech ymweld, gallwch alw heibio.

   

 

19/06/2023