Neidio i'r prif gynnwy

Parc Iechyd Dewi Sant yn derbyn Plac Glas

Yn gynharach yr wythnos hon, (16 Ionawr), derbyniodd Parc Iechyd Dewi Sant ym Mhontypridd Blac Glas i goffáu lleoliad y Parc Iechyd ar hen safle Wyrcws Undeb Pontypridd.  

Mae plac glas yn nodi adeilad o arwyddocâd hanesyddol ac yn yr achos hwn mae cofeb i'r holl bobl hynny fu'n gweithio ac yn byw ar y safle yn ystod ei gyfnod fel wyrcws. 

Maer Madam Rhondda Cynon Taf, Wendy Treeby sy'n datgelu'r plac yn yr ysbyty, ynghyd â Rhodri Powell MBE, cyn Rheolwr Cyfarwyddiaeth Patholeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg rhwng 1989-2001 a pwy hefyd wnaeth gwneud y cais gwreiddiol am y plac.

Dywedodd Rhodri: "Mae'r wythnos hon yn nodi 160 mlynedd ers i'r cytundeb gael ei arwyddo i'r wyrcws. Mae'n amseru gwych i ddadorchuddio'r plac yma, mae'n dangos faint o hanes mae'r safle yma yn ei ddal."

Daeth Maer Madame, Rhodri Powell MBE, aelodau o gyngor Rhondda Cynon Taf a chydweithwyr eraill o Barc Iechyd Dewi Sant, ynghyd ar gyfer dadorchuddio'r plac. Wrth i'r plac gael ei ddadorchuddio, dywedodd Madame Mayor, Rhodri a Darren Macey ychydig eiriau am ddatblygiad y wyrcws a'i hanes.

Meddai Maer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Wendy Treeby: "Bydd y Plac Glas yma ym Mharc Iechyd Dewi Sant yn ein hatgoffa i'r cenedlaethau nesaf bod sylfeini'r ysbyty yma wedi'u hadeiladu ar rai o weithwyr rhagflaenydd bwysig Pontypridd Union Workhouse.

"Bydd yn coffáu ac yn tynnu sylw at gyfnod o'n hanes cyn bod unrhyw wasanaethau cymdeithasol ar gael i drigolion yr ardal hon, amser o gynni a chaledi mwy, o bosib, nag sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd.

"Roedd Wyrcws yr Undeb mor hanfodol bryd hynny yn ei rôl o ofalu am bobl sâl a'r bregus ag y mae ei gymar modern heddiw."

 

19/01/2023