Neidio i'r prif gynnwy

Meddygfeydd yn uno i gynnig gwell mynediad i gleifion ac i sicrhau dyfodol eu gwasanaethau

Mae dwy feddygfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn uno i alluogi eu timau i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau gofal sylfaenol gwell ac i sicrhau eu cynaliadwyedd hirdymor.

Bydd Meddygfa Stryd Dewi Sant yn Nhon Pentre a Meddygfa Llwynypia yn Llwynypia yn uno i greu un practis ar 1 Ebrill 2022.

Mae llythyr wedi ei anfon at bob claf i roi gwybod iddynt am y newyddion, ac i roi gwybod iddynt na fydd dim yn newid o ran eu gwasanaethau meddyg teulu ar hyn o bryd. Bydd y ddau safle’n parhau i fod ar agor ac, oherwydd y gorgyffwrdd rhwng dalgylchoedd, bydd modd gweld cleifion yn y naill leoliad neu’r llall. Bydd y meddygon teulu, y nyrsys a’r derbynyddion hefyd yn parhau i weithio yn y ddwy feddygfa. 

Mae'r uno'n golygu y bydd cleifion yn gallu cael manteisio ar dîm clinigol mwy o faint a gwell cymysgedd o sgiliau. Bydd y practis newydd yn darparu gwell mynediad ac amrywiaeth fwy o arbenigeddau.

Yn ogystal â hynny, bydd rhagor o wasanaethau arbenigol ar gael ‘yn fewnol’, fel gwasanaeth mân lawdriniaeth (gan gynnwys chwistrelliadau i gymalau, clinigau INR a dewisiadau atal cenhedlu).

Daw’r uno yn sgil ymddeoliad yr Uwch-bartner Arweiniol, yr Athro Hasmukh Shah, sy'n gadael Meddygfa Llwynypia ar ôl 35 mlynedd o wasanaeth parhaus. Roedd Dr Shah a'i gydweithwyr am wneud yn siŵr fod y safon uchel o wasanaeth yn parhau i gleifion, ac mae timau'r ddwy feddygfa’n hyderus y bydd yr uno yn eu helpu i wneud hynny.

Am fwy o wybodaeth, darllenwch y llythyr anfonwyd at holl gleifion Meddygfa Stryd Dewi Sant a Meddygfa Llwynypia yma.

Mae dogfen gynhwysfawr llawn cwestiynau cyffredin gan gleifion hefyd ar gael yma.