Neidio i'r prif gynnwy

"Mae pawb yn wynebu eu Mynydd Everest eu hunain"

Mae’r Cerddwyr (neu Ramblers Cymru) yn annog pobl i wisgo eu hesgidiau cerdded a mynd allan i'r awyr agored er mwyn gwella eu hiechyd meddwl a'u lles.

Wrth gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM), Helpwch Ni I’ch Helpu Chi, mae'r sefydliad yn annog trigolion Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a'r ardaloedd cyfagos i grwydro'r llwybrau, y coedwigoedd, y llwybrau arfordirol a’r cymoedd rhyfeddol sy'n cysylltu'r rhanbarth.

Mae Rheolwr Ymwneud a Chyfathrebu y Cerddwyr, Brân Devey, yn gobeithio y bydd pobl yn ymuno ag un o’r sawl grŵp cerdded lleol neu yn cwrdd yn ddiogel y tu allan gyda ffrindiau a theulu er mwyn mynd i'r afael ag unigrwydd.

"Mae cadw’n heini bob dydd wedi bod yn anodd yn ystod y cyfnod hwn, ac mae rhai pobl wedi gorfod dechrau o’r dechrau, magu hyder ac, yn llythrennol, cymryd un cam ar y tro" meddai.

"Mae'r GIG o dan fwy o straen yn ystod misoedd y gaeaf, felly mae'n bwysig bod yn ofalus iawn wrth gerdded, yn ogystal â gwisgo'r esgidiau cywir, lapio'n gynnes a mynd â’r offer angenrheidiol. Peidiwch â mynd y tu hwnt i’ch terfynau.

"Ac o safbwynt ymwybyddiaeth ofalgar ac iechyd meddwl, mae'n hollbwysig ein bod ni’n cadw'n heini. Mae mynd am dro yn gwneud byd o les ac mae modd gwneud hyn o'ch drws ffrynt. Mae’n costio dim, ac mae pawb am wynebu eu Mynydd Everest eu hunain, boed hynny’n fynydd lleol, yn barc cenedlaethol neu'n llwybr arfordirol."

Yn wreiddiol o Fethesda, Eryri, ond yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn, ychwanegodd Brân: "Mae cerdded gyda phobl eraill, pan fydd hynny'n bosib, yn ffordd wych o rannu unrhyw broblemau sydd gyda chi, holi sut mae rhywun yn teimlo a dangos bod rhywun yn bwysig i chi. Gallai hyn fod yn hanfodol ar hyn o bryd.

"Bydd hyn i gyd yn helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau ar ein hysbytai a'n meddygon teulu, ond dydy hyn ddim yn golygu bod rhaid i chi ei gorwneud hi. Bydd mwynhau golygfeydd a synau'r ardal leol, yr heddwch a'r tawelwch, i gyd yn eich helpu i ymlacio.

"Ac mae cymaint o leoedd anhygoel i ymweld â nhw yn ardal BIP CTM, o Lwybr yr Arfordir i Fannau Brycheiniog, yn ogystal â theithiau cerdded poblogaidd y Cwningod yn Llantrisant, yr helpom ni i’w sefydlu gyda'r Cyngor Cymuned a gwirfoddolwyr grŵp Cerddwyr Taf Elái.

"Fel sefydliad, rydyn ni wedi gweld cymaint o fanteision, gyda phobl yn mentro allan gyda'u teulu neu eu 'swigen' i fynd am dro pan na fydden nhw wedi gwneud hynny o'r blaen. Dyna un arfer rydyn ni'n gobeithio ei weld yn parhau gan ei fod yn gwneud gwahaniaeth enfawr i iechyd ac ymwybyddiaeth ofalgar pobl."

Ategodd Brian Morgan, cadeirydd Cerddwyr Taf Elái (Llantrisant) y neges hon, ac meddai ef: "Does dim anfantais i fynd allan a mynd ar daith gerdded dda, heblaw am y tywydd oer yr adeg yma o'r flwyddyn efallai!

"Mae ein grŵp yn cynnwys pobl dros 60 oed yn bennaf, ond mae ambell aelod iau yma hefyd, ac mae'r brwdfrydedd i ddod yn ôl ynghyd a cherdded eto ar ôl y cyfnod clo yn anhygoel. Doeddem ni ddim yn gallu aros i wneud hynny ac i groesawu pobl newydd hefyd."

Ychwanegodd: “Mae cerdded yn dda i chi yn gorfforol ac yn feddyliol, mae modd i chi greu ffrindiau newydd, gweld rhannau anhygoel o'r rhanbarth hwn, ac mae manteision diddiwedd."

Ategodd Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, y geiriau hynny ac meddai ef: "Gall hyd yn oed daith gerdded fer neu weithgaredd corfforol yn yr awyr agored wella ein lles yn fawr.

"Ledled y rhanbarth hwn, mae cymaint o deithiau cerdded hyfryd sy’n amrywio o ran hyd ac anhawster, felly mae rhywbeth i bawb. Ac fel dywed Brân, bydd mynd am dro yn gwneud byd o les o ran clirio'r meddwl a rhoi teimladau cadarnhaol i chi, yn ogystal ag effeithio’n gadarnhaol ar y galon, y pwysedd gwaed ac o ran llosgi calorïau er mwyn cefnogi rheoli pwysau mewn fyrddiau iachus.

"Dyma'r ffordd berffaith o edrych ar ôl eich hun, ac mae hyn wedi helpu llawer o deuluoedd ac unigolion drwy gydol y pandemig."

Ewch i www.ramblers.org.uk/wales am fwy o newyddion a gwybodaeth gan Ramblers Cymru, yn ogystal â manylion grwpiau a llwybrau cerdded yn eich ardal chi.

Os ydych chi'n teimlo'n isel eich hwyliau neu os ydych chi’n ei chael hi’n anodd, cysylltwch â Llinell Gymorth CALL am gymorth cyfrinachol ac emosiynol. Mae'r llinellau ar agor 24/7 ar 0800 132 737, neu tecstiwch ‘help’ i 81066.

 

NODIADAU: Mae Cerddwyr Cymru yn gweithio i hyrwyddo cerdded er pleser, iechyd, hamdden, a thrafnidiaeth i bawb o bob oed, cefndir a gallu, a hynny mewn trefi a dinasoedd ac yng nghefn gwlad.

Maen nhw’n cynnig cymorth ymarferol i annog pobl i gerdded, ac i gynnal a chynyddu pa mor hir maen nhw’n cerdded mewn amrywiaeth o ffyrdd, o deithiau cerdded dan arweiniad drwy rwydwaith o ardaloedd a grwpiau gwirfoddol i deithiau cerdded byr yn y ddinas a theithiau dringo’r ucheldiroedd.