Neidio i'r prif gynnwy

Ffilmiau arloesol yn dangos bywyd gyda Dementia trwy lygaid y ffynnon

Mae cyfres newydd o ffilmiau am fywydau a heriau beunyddiol pobl sy'n byw gyda Dementia wedi eu creu gan ddefnyddio technoleg olrhain y llygaid ac adnabod mynegiant yr wyneb. 

Cafodd y 10 ffilm eu hariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a’u nod yw helpu gwylwyr i gydymdeimlo â phobl sy'n byw gyda Dementia, a deall sut i gyfathrebu â nhw a gofalu amdanynt. Cawson nhw eu creu gan gwmni o Abertawe o’r enw eHealth Digital Media sy'n gweithio gyda Chanolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC), Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Canolfan am Heneiddio Arloesol Prifysgol Abertawe, a thîm Positive Approach to Care Teepa Snow; gyda chefnogaeth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru drwy raglen Accelerate Cymru.

Gweithiodd tîm ymchwil ATiC yn agos gyda Kimberley Littlemore, sy’n wneuthurwr rhaglenni dogfennau ac yn Gyfarwyddwr Creadigol gydag eHealth Digital Media, ynghyd â'i rhieni, Clive a Pauline Jenkins, sydd yn eu 80au ac sy'n byw gyda Dementia. Nhw oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r prosiect.

Roedd y ddau’n gwisgo sbectol olrhain y llygaid wrth wneud tasgau bob dydd yn y cartref, fel bod modd i’r tîm weld y byd drwy eu llygaid nhw.  Yn ogystal â hynny, cafodd camerâu eu gosod o gwmpas cartref Clive a Pauline i gael cipolwg ar eu bywyd bob dydd.

Diolch i’r ffilm hon, roedd modd i ymchwilwyr ganfod a deall unrhyw batrymau o ran ymddygiad a sbardunau dros amser, a dewis yr adegau allweddol y gallai clinigwyr ac academyddion yn y maes eu dadansoddi a'u trafod ymhellach.

Mae pob un o'r ffilmiau’n canolbwyntio ar bwnc gwahanol, fel diogelwch, canfyddiad gweledol, dicter a gorbryder. Y gobaith yw y byddan nhw’n helpu gofalwyr ffurfiol ac anffurfiol i ddeall yn well sut i helpu pobl i fyw mor dda â phosib gyda Dementia.

Mae’r ffilmiau hyn i’w gweld am ddim yng Nghymru diolch i gyllid gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Cliciwch ar y ddolen hon i wylio'r ffilmiau ar blatfform PocketMedic, eHealth Digital Media: www.medic.video/dementia. Maen nhw hefyd ar gael ar wefan DEWIS: www.dewis.cymru.

Ewch i'r dudalen hon ar wefan PocketMedic i wylio'r fideos gydag isdeitlau Cymraeg: www.medic.video/dementia-cym.

Os ydych chi’n byw y tu hwnt i Gymru ac am wylio'r ffilmiau, cysylltwch â info@pocketmedic.org.

Chwaraewch y fideo isod i wylio Living with Dementia. Ffilm ragarweiniol yw hon gafodd ei rhyddhau ar ddechrau'r prosiect ac mae'n egluro sut cafodd y dechnoleg ei defnyddio i ddogfennu profiadau Clive a Pauline.

 

 

Canolfan ymchwil integredig yw'r Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) sy’n ystyried pethau trwy lygaid y defnyddiwr ac yn defnyddio adnoddau arloesi strategol trwy ei chyfleuster ymchwil blaengar yn Ardal Arloesi Abertawe.

ATiC yw un o bartneriaid prosiect Accelerate Cymru (Cyflymydd Arloesedd a Thechnoleg Iechyd Cymru) sy’n werth £24 miliwn. Mae cydweithrediad arloesol Accelerate rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Cyflymydd Arloesedd Clinigol Prifysgol Caerdydd, Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).