Neidio i'r prif gynnwy

Mae Bwyd a Hwyl YN ÔL...ac eleni mae'n fwy ac yn well nag erioed!

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (Dieteg Iechyd y Cyhoedd) mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol Merthyr, RhCT a Phen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Leol Cymru yn croesawu dychweliad Bwyd a Hwyl eleni; ac mae'n fwy ac yn well nag erioed.

Yn BIP CTM, bydd 1580 o leoedd Bwyd a Hwyl ar gael i blant ysgolion cynradd am 12 diwrnod cyntaf gwyliau'r haf (Gorffennaf 25  –  Awst 9).

Mae 34 o ysgolion wedi cofrestru i gefnogi teuluoedd lleol gydag ystod o weithgareddau difyr, sy'n canolbwyntio ar iechyd, hapusrwydd a lles. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod plant yn gallu manteisio ar brydau iach, addysg maeth ac yn gallu mwynhau llawer o weithgareddau corfforol.

Dywedodd Shelley Powell, Rheolwr Proffesiynol Deieteg, BIP CTM:

“Rydym yn edrych ymlaen at weld Bwyd a Hwyl yn dychwelyd yr haf hwn!  Mae'n cael effaith mor fawr ar iechyd a lles plant a theuluoedd, nid yn unig yn ystod yr haf ond y flwyddyn academaidd newydd. 

“Mae ein timau wedi bod yn gweithio mor galed i baratoi ar gyfer dychwelyd Bwyd a Hwyl; gan weithio ochr yn ochr â'n partneriaid awdurdod lleol i sicrhau bod ein hysgolion yn derbyn yr hyfforddiant, y gefnogaeth a'r adnoddau angenrheidiol i greu'r cyfle gwych hwn i'r plant a'r teuluoedd yn ein cymunedau lleol”.

Mae Diwrnod 1 eisoes wedi dod â chymaint o adborth cadarnhaol gan blant a theuluoedd:

 “Cefais gymaint o hwyl y llynedd, felly dwi yn ôl eleni. Dwi methu aros i flasu’r ffrwythau' - 'Dysgais dydych chi ddim yn gallu dweud dydych chi ddim yn hoffi rhywbeth os dydych chi ddim wedi rhoi cynnig arni” Oed 8, St Aloysius. Merthyr Tudful.

 “Mae fy mab wedi dysgu cymaint gan Bwyd a Hwyl. Mae'n dod adref bob dydd ac yn dweud wrthyf y neges bwyta'n iach o'r sesiynau ac mae wedi gofyn i ni ddechrau cymryd rhan mewn mwy o weithgarwch corfforol fel teulu.” Rhiant plentyn o Blessed Carlo Acutis: St Aloysius ar ôl rhaglen y llynedd.

Diolch yn fawr iawn i'r holl bartneriaid sy'n cynnal bwyd a hwyl eto eleni.

I weld beth mae ein rhaglenni bwyd a hwyl yn ei wneud dros y 12 diwrnod nesaf, dilynwch ni ar Twitter @CTMUHBDietetics @JanineBrill neu ar Facebook: CTMUHB Dietetics Facebook.

Am ragor o wybodaeth am beth sydd gan fwyd a hwyl i'w gynnig ewch i 'Bwyd a Hwyl' Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP) a gwyliwch ein fideo.

 

25/07/2023