Neidio i'r prif gynnwy

Cynnydd ar y gwaith ym Mharc Iechyd Dewi Sant

Mae cam olaf y gwaith o ailddatblygu Parc Iechyd Dewi Sant ym Mhontypridd ar y gweill.

Bydd ail gam y gwaith yn parhau i dynnu ynghyd amrywiaeth o wasanaethau cymdeithasol ac iechyd o dan un to, gan gynnwys gwasanaethau deintyddiaeth, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau cymunedol, yn ogystal â darparu ystafelloedd radioleg ddiagnostig sydd wedi eu hadnewyddu.

Daw’r gwaith ar ôl cyflawni cam cyntaf y datblygiad, arweiniodd at feddygfa yn symud i mewn i’r adeilad, ynghyd â gwasanaethau gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd Rhywiol, y Gwasanaeth @Home a sefydliadau’r trydydd sector sy’n cynnal gweithdai a chyrsiau o’r Ganolfan Adnoddau Gofal Sylfaenol yn y parc iechyd.

Rhoddwyd £1.5 miliwn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar gyfer cam cyntaf y prosiect ym mis Tachwedd 2016. Mae disgwyl i’r ail gam a’r cam olaf, gafodd eu cyllido gydag £8m gan Lywodraeth Cymru, erbyn haf 2021.

Dywedodd Julie Denley, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol ac Iechyd Meddwl Sylfaenol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Rydyn ni mor falch o allu parhau â’r gwaith gwych ym Mharc Iechyd Dewi Sant. Mae’r cam datblygu cyntaf wedi ein galluogi i roi mwy o ofal i gleifion yn nes at eu cartrefi, gan weithio gyda’n partneriaid yn y trydydd sector a awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn darparu’r gofal a chymorth gorau posibl.

Bydd y gwaith parhaus hwn yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng ein holl wasanaethau er mwyn i’r arbenigwyr a thimau priodol allu gweld cleifion yn gyflym o dan un to.”

Dechreuodd y gwaith o ddymchwel yr hen wardiau oedd ar ôl ar y llawr cyntaf a’r ail lawr yn yr haf, ac erbyn hyn, mae’r mannau yn cael eu hailddylunio i letya gwasanaethau newydd. Yn gynharach eleni, cafodd siop goffi Bar Barista ei chwblhau yn ogystal ag ystafelloedd arbennig ar gyfer clinig bariatrig i drin cleifion lymffoedema a chleifion eraill, a chafodd y mannau cyhoeddus eu moderneiddio hefyd.

Fel rhan o’r gwaith datblygu, mae Grŵp Llywio’r Celfyddydau wedi cael ei sefydlu i gynnwys staff, grwpiau lleol ac unigolion er mwyn helpu i ddylunio celf, cynlluniau lliw a chyfarwyddiadau addas.

Bydd yr adeilad hefyd yn lletya’r Gwasanaethau Podiatreg a’r Timau Nyrsio Ardal ac mae disgwyl i’r gwasanaethau hyn gael eu trosglwyddo y flwyddyn nesaf.

Cafodd Ysbyty Dewi Sant ei adeiladu yn y 1970au. Ac yntau’n un o ysbytai hynaf ystâd Cwm Taf Morgannwg, bydd y gwaith moderneiddio’n ein galluogi ni i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n diwallu anghenion poblogaeth Taf-Elái yn well.

Bydd y model yn debyg i fodel Parc Iechyd Prifysgol Keir Hardie ym Merthyr Tudful, sef un o brif safleoedd y Bwrdd Iechyd, a’r parc iechyd integredig cyntaf o’i fath yng Nghymru.